Diolch yn fawr Magi am y cymorth. Mi wna i gysylltu a^'r Ysgol Nyrsio -
hwyrach ar o^l Nadolig erbyn hyn! Mae'r ddynes yn Llanfrothen yn cynnal rhyw
gyrsiau gweddol 'way-out' ac amgen i'r arferol, a meddwl yr oeddwn i am
rywbeth i ddisgrifio'i math hi o ddosbarthiadau. Ei gwr yw Ecolegydd y Parc;
y ddau'n 'un a^'r ddaear' fel petai. Hi fu'n rhoi sesiynau ar 'leddfu
straen' i ni amser cinio yma yn swyddfa'r Parc ym Minffordd! Doniol - pawb
yn gorwedd ar lawr yn addoli'r haul ynghanol cydweithwyr - jyst y peth i
gyfieithydd prysur (heb so^n am y gwersi cynganeddu gyda Mei Mac bob
pythefnos)!
Nadolig llawen i chi gyd - edrychaf ymlaen at ddarllen eich sgyrsiau
diddorol a'ch awgrymiadau doeth eto yn 2001.
Non.
> -----Original Message-----
> From: teulu lewis [SMTP:[log in to unmask]]
> Sent: Tuesday, December 19, 2000 9:27 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ACTIVE BIRTH
>
> Annwyl Non
> Rho rhyw ddiwrnod i mi feddwl am hwn. Paid b chael dy hudo gan gysyniadau
> digon Americanaidd pan fo merched Cymru wedi bod yn rhoi genedigaeth
> drwy'r
> oesoedd heb unrhyw un yn dweud wrthynt sut i wneud hynny. Meddyliaf am y
> peth yng nghyd destum dy eglurhad a'm ugain mlynedd o brofiad fel
> bydwraig!
> Roeddwn yn meddwl ein bod wedi hen ennill y dydd i ferched bellach! Hola
> Gwerfyl Roberts ym Mangor - Ysgol Astudiaethau Nyrsio - hi yw'r
> arbenigwraig
> ar y mater.
> Magi Lewis
> -----Original Message-----
> From: Non Tudur <[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> <[log in to unmask]>
> Date: 19 December 2000 17:06
> Subject: ACTIVE BIRTH
>
>
> Nid yw hwn yn derm sefydledig. Mae dynes o'r enw Julie Gritten yn ardal
> Llanfrothen yn cynnig dosbarthiadau 'Antenatal Classes', 'Partner Birth
> preparation classes', 'Waterbirth information and pool', 'birth
> counselling', a 'Breastfeeding'.
>
> Eu bwriad yw addysgu menywod sy'n disgwyl ar roi genedigaeth, ac 'active
> birth' yw'r teitl y mae wedi'i ddewis ar gyfer ei dosbarthiadau. Gofynnais
> iddi am eu cynnwys ac roedd hi'n eu disgrifio fel 'Childbirth Education',
> yn
> rhoi hyder i ferched sy'n disgwyl babi i wneud eu penderfyniadau eu hunain
> pan fyddant yn mynd i'r ysbyty i roi genedigaeth, megis am gyffuriau
> a.y.b.,
> ac i 'take away their fear' wrth fod yn feichiog (yn enwedig merched
> ifanc).
> Mae wedi'i alw'n 'active birth' gan fod y broses o addysgu mewn ysbytai
> wedi
> cael ei alw'n 'active management of birth', ond nid oedd hi na rhai o'r
> bydwragedd y mae hi'n cysylltu b nhw yn awyddus i ddefnyddio'r term
> anghynnes 'management'. Mi nath hi gynnig y gellid newid y term 'active' i
> rywbeth fel 'choice' (h.y. birth choices) neu 'confidence', neu 'power'
> hyd
> yn oed! Meddyliais am 'geni b hyder / hyder wrth roi genedigaeth (rhy
> hir),
> neu rywbeth fel 'dysgu am enedigaeth'? Mi fydd y cyfieithiad ar boster,
> felly mi fyddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gynigion neu syniadau mwy bachog.
>
> Diolch yn fawr
>
> Non Tudur ac Elliw Lly^n
> Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni
> cheir
> yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat
> yw
> hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
> cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
> gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
> Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
> chopoo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
> Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views
> of
> the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
> Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
> only. Its contents may be confidential. If you have received this message
> in
> error please reply to say so and then delete the message. Any use,
> copying,
> disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.
Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir
yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw
hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y
cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy
gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges.
Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei
chopïo, ei datgelu neu ei dosbarthu.
Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of
the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park
Authority. This is a private message intended for the named addressee(s)
only. Its contents may be confidential. If you have received this message in
error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying,
disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.
|