Beth am y frawddeg yma.
Providing advice and support on hygiene, safety, protection, security and
child development.
Difyr ynte. Y gwaith cyfieithu wedi'i hen wneud a'i anfon - ond meddwl y
byddech yn hoffi rhannu hon. Mae'r Saesneg yn iaith fendigedig yn tydi!
Magi Lewis
-----Original Message-----
From: Tim Saunders <[log in to unmask]>
To: welsh-termau-cymraeg <[log in to unmask]>
Date: 17 November 2000 09:47
Subject: Re: security
Wedi hir drafod, y consensws owdd taw 'diogeledd' fyddai orau, rhag cymysgu
gyda 'safety'.
Tim
>>> "Violet Greaves" <[log in to unmask]> 11/17/00 09:40am >>>
Diogelwch?
----- Original Message -----
From: "Megan Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 17, 2000 7:46 AM
Subject: re: security
>
> Annwyl Magi,
>
> Rwy'n cymryd mai Magi wyt ti a oedd ym Mangor efo fi ers talwm ac a fu'n
> dilyn cwrs cyfieithu wedi hynny. Sut wyt ti? Wyt ti'n dod i'r Gynhadledd
> yn Rhaeadr yr wythnos nesaf? Ffonia'r swyddfa am raglen y GYnhadledd -
> 01248 388092. Anfona air ata i i gadarnhau dy gyfeiriad e-bost. Nid
oeddwn
> wedi dilyn y drafodaeth ar y termau ers mis Gorffennaf, dyna pam y b{m
mor
> hir yn dy ddargfanfod.
>
> Hwyl fawr,
>
>
> Megan
>
> >From: teulu lewis <[log in to unmask]>
> >Reply-To: [log in to unmask]
> >To: welsh-termau-cymraeg <[log in to unmask]>
> >Subject: re: security
> >Date: Thu, 26 Oct 2000 14:49:34 +0100
> >
> >I fynd yn +APQ-l at hen drafodaeth. Wrthi'n cyfieithu deunydd am
> >ddarpariaeth, lleoliadau gwasanaeth gofal ac addysg blynyddoedd cynnar
h.y.
> >plant bach. Un frawddeg sy'n s+APQ-n am safety a security (h.y. cadw'r
> >darlings bach o dan glo+ACE-) o fewn ychydig eiriau i'w gilydd. Ble
byddwn
> >yn hapus iawn defnyddio gwarchod/gwarchodaeth am security fel rheol rwyf
yn
> >petruso braidd yn y cyd-destun hwn - mae gwarchodaeth plant yn golygu
> >rhywbeth tra gwahanol i security - child protection - tra mae gwarchod
> >plant yn golygu rhywbeth arall eto - pwy sy'n gwarchod y plant heno? -
> >Does ryfedd fod fy ngwallt yn troi'n wyn. O leiaf gallaf fod yn hollol
> >bendant na fyddaf yn defnyddio diogeledd.
> >Magi Lewis
>
> _________________________________________________________________________
> Get Your Private, Free E-mail from MSN Hotmail at http://www.hotmail.com.
>
> Share information about yourself, create your own public profile at
> http://profiles.msn.com.
>
>
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|