"Swyddog Gorfodi" buaswn i'n tybio sydd orau yn yr achlysur hwn gan mai'r
swyddog sy'n gorfodi'r cyhoedd i gydymffurfio gyda'r gwahanol rheoliadau.
Ond hoffwn i gael barn gramadegwr hefyd.
David A.Thomas David A.Thomas
Policy Unit Uned Polisi
Tredomen Tredomen
Extension 4353 Estyniad 4353
E-mail [log in to unmask] E-bost [log in to unmask]
> ----------
> From: Tim Saunders[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: [log in to unmask]
> Sent: Thursday, November 02, 2000 09:57
> To: [log in to unmask]
> Subject: RE: Enforcement Officer
>
> Fel mater o gywirdeb, p'un sydd orau 'swyddog gorfodaeth' ynteu 'swyddog
> gorfodi'? Gallaf weld dadleuon ar y ddwy ochr, ac wedyn pan edrychwn ar
> ymadroddion cyffelyb o feysydd eraill fe welwn gynseiliau digon cadarn
> dros y ddwy.
>
> Cymerwn, er enghraifft, 'swyddog cofrestru' a 'swyddog profiannaeth'.
> Tybed a yw'r gwahaniaeth yn tarddu o'r ffaith fod y swyddog cyntaf yn
> *cyflawni'r* weithred o ychwanegu enw (a manylion eraill) i restr
> bwrpasol, a bod yr ail yn gyfrifol am *oruwchwylio*'r brofiannaeth, sydd
> wedi'i gosod gan y llys tra bo dedfryd arall yn cael ei atal yn ystod
> ymddygiad da troseddwr a ddyfarnwyd yn euog? Os felly, mae'n debyg taw
> 'swyddog gorfodi' fyddai orau. Ond os wyf i wedi camddeall yr egwyddor ar
> waith yma, os gwn i a fedr rhyw ramadegwr caredig fy ngoleuo?
>
> Tim
>
> >>> "Crowe, Richard (OPO)" <[log in to unmask]> 11/01/00
> 01:22pm >>>
> On cofiwch fod yna fath beth â 'compliance officer'.
>
> -----Original Message-----
> From: Tim Saunders [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 01 November 2000 11:53
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Enforcement Officer
>
>
> Yr aelodau o'r cyhoedd (gobeithio!) sy'n gwneud y cydymffrufio a'r
> ufuddhau,
> o dan orfodaeth y swyddog.
> Tim
>
> >>> Neil Shadrach <[log in to unmask]> 11/01/00 11:48am >>>
> Ysgrifennodd Tim:
> > Mae'r sawl sy'n 'gorfodi', mewn cyd-destun cyfreithiol, yn peri i bobl
> gydymffurfio
> > =E2 rhyw reolau neu'i gilydd.
>
> Onid yw hynny yn awgrymu "Swyddog Cydymffurfiaeth/Cydymffurfio"?
>
>
>
>
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|