Wel ie, *ond* ...
Fe *allai*'r 'incident' droi allan i fod yn 'broblem', yn 'argyfwng', yn 'ddamwain' ... neu'n gant a mil i bethau eraill. Nid disodli'r geisiau eraill y mae 'incident', ond yn rhychwantu nifer o sefyllfeydd annymunol heb bennu'u harwyddocâd cyfreithiol. Nid ymadrodd Americanaidd yn unig mono o bell ffordd, ond yn hytrach yn un a berthyn i draddodiad Cyfraith Loegr (a'i changhennau) yn gyffredinol. Yn aml iawn, bydd gofyn am osgoi bod yn rhy benodol. Dyna pam y bydd yr heddlu yn sefydlu 'incident room', dyweder, pan fo plentyn yn diflannu, ond cyn cael sicrwydd bod trosedd wedi'i gyflawni.
Mae'r term Gwyddeleg 'eachtra' yn tarddu o hen air a ddynodai ddosbarth o chwedlau antur tu fewn i grefft y cyfarwydd. Tybed beth fyddai'n taro deuddeg yn y Gymraeg?
Tim
>>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 10/27/00 12:36pm >>>
Gas gen i'r ffilmiau Americanaidd lle mae heddwas yn galw'r swyddfa "We
have an incident here", yn lle "problem" neu "emergency" neu "accident".
Mae cymaint o help a'r bobl a oedd yn rhoi pen rownd drws fy swyddfa, gan
ddweud "Mae angen cymorth cyntaf yn ystafell x" a diflannu - weithiau
'roedd fer wedi'i droi, unwaith trawiad ar y galon. Er hynny, gallaf weld
*rhyw* defnydd i'r gair - ond dim ar draul geiriau mwy naturiol a phenodol.
Onid digwyddiad annisgwyl yw "incident"?
Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|