Cwestiwn ofnadwy o ddiddorol! Tybed a fyddai rhywn yn defnyddio'r un term Gymraeg mewn peirianneg, dyweder? Ac os felly, bwth fyddai'r term gorau yn y cyd-destun hwn ar gyfer 'tolerance' (e.e. 'tolerances of 0.001 mm')?
Tim
>>> Non Tudur <[log in to unmask]> 10/17/00 12:23pm >>>
Mae'r Termiadur Ysgol wedi dewis 'trachywir' am 'precision' a 'chywirdeb' am
'accuracy'. Ddim yn siwr am y cynta' - unrhyw gynigion? Mi wn hefyd am
fanylder, fanylrwydd, union gywir ayb - pa un fyddwch chi'n ei ddefnyddio?
Cyd-destun: Sgiliau bysellfwrdd "Considerable precision and speed". Daw
'accuracy' yn nes ymlaen am 'input accurately'.
Newydd ymuno â'r rhestr - diddorol iawn!
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|