Ynglyn a'r "update" yna:
Wn i ddim pam fod yna unrhyw reidrwydd i GREU gair Cymraeg slic, dim ond am fod yna un yn digwydd bod ar
gael yn Saesneg; neu yn "Saesneg America" ddyliwn i ddweyd.
Yn wir, Saesneg America sydd yn achosi y broblem fwya' wrth i ni geisio moderneiddio y Gymraeg, 'ddyliwn
i, oherwydd dim ond "chwaer fach" i iaith America ydyw Saesneg Lloegr, bellach (a Saesneg Cymru, a'r
Alban, a'r Iwerddon hefyd). Neu dyna mae golygwyr yr O.E.D. diweddara' yn gynnig. Ac mae hyn yn bod am nad
oes lawer o idiomau newydd wedi datblygu yn iaith Loegr yn ddiweddar, ac mae idiomau America yn cael ei
llyncu i fewn iddi yn eu lle. Yn wir, mae'r rhyfeddod hwn yn dod yn amlwg iawn i rywun sydd wedi treulio
cyfnod o flynyddoedd go faith y tu allan i Brydain.
Ond yn ôl at y pwynt. Beth sydd o'i le werth ddweyd yn syml :"Mae'r llyfr yn cynnwys y wybodaeth (yr
hanesion/yr ymchwil) ddiweddaraf", pan fydd rywun yn ceisio trosi y syniad Seisnig dilynol: "The book has
been updated". Saith o eiriau sydd yn y frawddeg Gymraeg hon, a phump yn yr un Saesneg, a chofio, hefyd,
fod cystrawen y frawddeg Gymraeg yn mynny fod dwy fannod briodol yn cael eu cynnwys ynddi, hefyd. Pa faint
yn fwy llithrig, medde chi, ydyw'r ymadroddiad Saesnig, yn hytrach na'r ymadroddiad Gymreig?
Ond wrth i mi ystyried y sylwadaeth hwn ymhellach, yng nghyswllt a safle "welsh-termau-cymraeg" (dyna i
chi Gymraeg carbwl), mae o'n rhoi ryw syniad o"déjà vu" i mi. Neu, os ydw' i am ddyfynnu hyn yn iaith
"Saesneg America", fel y byddai yn cael ei ynghannu gan y chwareuwr "baseball" enwog,Yogi Barra: "'déjà
vu' all over again".
A sylwch, Catrin Alun, i weld os ydw i wedi "codi'r bais" ddigon buan, wrth i mi draddodi llith mor faith.
Ond efallai, oherwydd fod ffasiynau wedi newid cymaint, mai "codi cynffon crys" fyddai yn ddywediad mwy
cymwys i bob un ohonnom, yn y byd modern; ond i ni beidio ceisio moderneiddio y rhan gynta' o'r hen
ieithwedd dirion hon, yn te.
MT
Tim Saunders wrote:
> Rhwng 'diweddaraf' a 'diweddaru', y mae rhyw elfen o'r peth yn llechu, ond bydd raid meddwl eto am hyn.
>
> Tim
>
> >>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 08/31 2:41 pm >>>
> Gweler Geririadur yr Academi tud 1600!
>
> Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|