Tim Saunders;
Tybio, ydw' i, y buasai dau air, sef "gwybodaeth (d)diweddaraf", yn cyflenwi yr un bwriad yn union a'r ystyr sydd yn cael ei gynnwys yn y gair "update" yn y tri engraifft a roesoch chi ar eich llythyr, a hyn heb lychwino dim ar yr iaith, ac heb ei symleiddio, 'chwaith.
Ac i roi eich meddwl yn dawel ynglyn a chenadwri holl gynnwys fy llith, teimlo 'roeddwn i fel gollwng colwyth o ryw hen syniadau oedd wedi hel yn fy meddwl i ers tro. Credaf fod peryg i'n hiaith drengi, pe bai o ddim ond yn unig oherwydd y sobrwydd a'r difirfoldeb sychfoesol sydd i'w gael yn ein gohebiaeth i'r
safle hon, heb son am brinder ein harabedd.
MT
Tim Saunders wrote:
> Meddwl fy mod yn cytuno'n fras, er:
>
> I) nad yn sicr beth yn gywir yw cenadwri'r llith i gyd
> 2) nad yn cofio i mi fynnu fod gofyn o reidrwydd am air newydd.
> 3) heb fod yn sicr pam fod ffynhonell y term neu ymadrodd mor bwysig â hynny - pa fodd orau i fynegi'r cysyniad yn Gymraeg yw'r pwynt, p'un ai yng Nghaeathro, Casnewydd, Canberra neu Carson City y bo'r geiriau dan sylw yn cael eu hynganu gyntaf (ac ni ddylem anwybyddu dylanwad Saesneg De-orllewin y Môr Tawel).
> 4) nad yw'r ffynonellau Americanaidd a welais yn amlygu llawer o ddefnydd o'r term, p'un ai fel berf neu fel enw (er bod digon o enghreifftiau o'r ail o'r Western Mail oddi ar yr wythdegau cynnar)
>
> Ychydig enghreifftiau o ddefnydd cyfoes:
>
> "Dafydd's updating the Towyn story for the next bulletin."
> "You'd better update the Health Secretary on the latest stats before she answers questions."
> "Have we got an update on the Clydach murders?"
>
> Tim
>
> >>> <[log in to unmask]> 09/01 2:18 pm >>>
> Ynglyn a'r "update" yna:
>
> Wn i ddim pam fod yna unrhyw reidrwydd i GREU gair Cymraeg slic, dim ond am fod yna un yn digwydd bod ar
> gael yn Saesneg; neu yn "Saesneg America" ddyliwn i ddweyd.
>
> Yn wir, Saesneg America sydd yn achosi y broblem fwya' wrth i ni geisio moderneiddio y Gymraeg, 'ddyliwn
> i, oherwydd dim ond "chwaer fach" i iaith America ydyw Saesneg Lloegr, bellach (a Saesneg Cymru, a'r
> Alban, a'r Iwerddon hefyd). Neu dyna mae golygwyr yr O.E.D. diweddara' yn gynnig. Ac mae hyn yn bod am nad
> oes lawer o idiomau newydd wedi datblygu yn iaith Loegr yn ddiweddar, ac mae idiomau America yn cael ei
> llyncu i fewn iddi yn eu lle. Yn wir, mae'r rhyfeddod hwn yn dod yn amlwg iawn i rywun sydd wedi treulio
> cyfnod o flynyddoedd go faith y tu allan i Brydain.
>
> Ond yn ôl at y pwynt. Beth sydd o'i le werth ddweyd yn syml :"Mae'r llyfr yn cynnwys y wybodaeth (yr
> hanesion/yr ymchwil) ddiweddaraf", pan fydd rywun yn ceisio trosi y syniad Seisnig dilynol: "The book has
> been updated". Saith o eiriau sydd yn y frawddeg Gymraeg hon, a phump yn yr un Saesneg, a chofio, hefyd,
> fod cystrawen y frawddeg Gymraeg yn mynny fod dwy fannod briodol yn cael eu cynnwys ynddi, hefyd. Pa faint
> yn fwy llithrig, medde chi, ydyw'r ymadroddiad Saesnig, yn hytrach na'r ymadroddiad Gymreig?
>
> Ond wrth i mi ystyried y sylwadaeth hwn ymhellach, yng nghyswllt a safle "welsh-termau-cymraeg" (dyna i
> chi Gymraeg carbwl), mae o'n rhoi ryw syniad o"déjà vu" i mi. Neu, os ydw' i am ddyfynnu hyn yn iaith
> "Saesneg America", fel y byddai yn cael ei ynghannu gan y chwareuwr "baseball" enwog,Yogi Barra: "'déjà
> vu' all over again".
>
> A sylwch, Catrin Alun, i weld os ydw i wedi "codi'r bais" ddigon buan, wrth i mi draddodi llith mor faith.
> Ond efallai, oherwydd fod ffasiynau wedi newid cymaint, mai "codi cynffon crys" fyddai yn ddywediad mwy
> cymwys i bob un ohonnom, yn y byd modern; ond i ni beidio ceisio moderneiddio y rhan gynta' o'r hen
> ieithwedd dirion hon, yn te.
>
> MT
>
> Tim Saunders wrote:
>
> > Rhwng 'diweddaraf' a 'diweddaru', y mae rhyw elfen o'r peth yn llechu, ond bydd raid meddwl eto am hyn.
> >
> > Tim
> >
> > >>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 08/31 2:41 pm >>>
> > Gweler Geririadur yr Academi tud 1600!
> >
> > Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|