I Huw Roberts:
Ia wir, clywch, clywch. Ond dim ond rywun o Lÿn, neu o Fôn, fuasai yn dwyed
"deunyddiau" yn hytrach na "defnyddiau".
A da beth fod y ddau ffurf yn dderbyniol gan Feurig, a W.O.
MT
"Roberts, Huw" wrote:
> Er mwyn hyrwyddo a chefnogi gwaith athrawon, darlithwyr, disgyblion a
> myfyrwyr sy'n ymwneud ag addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, hoffwn weld mwy
> ohonom yn mabwysiadu geirfa'r Termiadur Ysgol. Mae ACCAC a CBAC wedi
> hysbysu'r ysgolion mai'r termau a restrir yno yw'r rhai a fydd yn ymddangos
> yn eu deunyddiau dysgu ac asesu o hyn ymlaen. Cyhyd â bod y term yn y
> Termiadur, teimlaf y dylem geisio cadw hyn mewn cof.
>
> Tybed felly a fyddai modd i ni fodloni ar y termau magnet (gyda t, yn
> hytrach na d) ac oergell (am refrigerator, gan neilltuo rhewgell i
> ddisgrifio freezer/deep freeze)?
>
> Dw i'n siwr y byddai'r disgyblion yn gwerthfawrogi gweld y math yma o
> gysondeb yn eu haddysg wyddonol a'u bywyd bob dydd.
>
> Huw
>
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|