'Gwellañ gourc'hemennoù' sy'n gywir, mi gredaf. (Llythyren 'n' gyda thilde
ar ddiwedd y gair cyntaf a llythyren 'u' gydag acen ddisgynedig ar ddiwedd
yr ail).
Onid 'Degemer-mat' a ddefnyddir yn Llydaweg ar gyfer 'croeso'?
Colin Jones
Bwrdd yr Iaith Gymraeg/Welsh Language Board
Ffôn/Tel. 029 2087 8018
Ffacs/Fax 029 2087 8001
[log in to unmask]
-----Original Message-----
From: [log in to unmask]
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann
Corkett
Sent: Friday, July 28, 2000 04:18
To: welsh-termau-cymraeg
Subject: Cyfarchion amlieithog
A oes 'na rywrai sy'n gallu fy helpu i gywiro cwpl o ddogfennau sy'n
cynnwys cyfarchion mewn nifer o ieithoedd eraill, os gwelwch yn dda?
Y cyntaf yw slip cyfarch sydd yn cynnwys y canlynol:
Gyda chyfarchion
With compliments
Complimenti
Le dea-mhe/in
Gwellan gourch'henennou\
Avec des compliments - byddai "mes/nos" yn well na "des"
Mit freundlichen gru"ssen
'Dyn ni wedi cael cadarnha^d gan rywun ynghylch y geiriau Gwyddelig. Mae'r
Eidaleg a'r Almaeneg yn ymddangos yn iawn inni yn ein hanwybodaeth - os
gall rhywun eu cywiro, gadewch wybod. Mae Bruce yn weddol sicr y dylai'r
Llydaweg ddarllen "Gwellav" yn hytrach na "Gwellan", ond heb fod yn ddigon
cyfarwydd a^'r iaith i gywiro'r cyfan.
Hefyd, mae gennym daflen (anghywir iawn ei Chymraeg) sy'n cynnwys:
Croeso - Fai/lte - Dhynarch - Feailley - Vezoc'h - Welcome.
Er iddo amau mai "Byddwch" yw ystyr "Vezoc'h", a bod 'na air ar goll, ac o
bosibl bod yr acen yn y lle anghywir ar "Fai/lte", unwaith eto nid yw Bruce
mewn lle i'w cywiro.
Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth,
Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|