A gawn ni ddiffiniad o ystyr y term yn y cyd-destun os gwelwch yn dda? Mae
gen i ryw syniad mai'r math o beth y cyfeirir ato yw cacen sia^p pe^l yn
lliwiau hoff di^m Joni bach, neu gacen "Thomas the Tank Engine", ayb. Os -
a phwysleisiaf yr "os" - dw i'n iawn, a fyddai rhywbeth fel "Addurno
Cacennau a^ Thema/ yn o^l Thema" yn gwneud y tro?
Yn gyffredinol, gan fod cymaint o eiriau arbenigol yn ymddangos, byddwn
i'n ei chael hi'n haws tasai ymholiadau yn cynnwys diffiniad o eiriau
newydd a/neu enghreifftiau o'u defnydd (yn arbennig lle defnyddir geiriau
cyfarwydd mewn cyd-destun newydd).
Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|