Beth yw barn y brodyr a'r chwiorydd am wneud defnydd o'r adnoddau traddodiadol sydd ar gael yn yr iaith wrth drafod pynciau hanesyddol? Sylwais, e.e., fod ffynonellau cyfoes yn defnyddio Cynghreirwyr ac Undebwyr yn weddol gyson ar gyfer y ddwy ochr yn y Rhyfel rhwng y Taleithiau (1861-5) ('yr anhyfrydwch diweddar' yn ol gwraig un o'm ffrindiau - brodores o Florida). Mae'r term 'Cyngrair' yn amlygu dealltwriaeth ddigon cywir o'r berthynas gyfansoddiadol rhwng Taleithiau'r De, ac fe fuaswn i'n mentro awygrymu bod hyn, yn ogystal a'r ffaith bod y clwstwr o dermau perthynol ar gael mewn ffynonellau cyfoes, yn gyfiawnhad digon sylweddol dros dderbyn yr hyn sydd ar gael yn barod.
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|