Annwyl Roger a phawb,
Diolch am y wyobodaeth ynglyn a'r defnydd o 'Shoah'. Tybed a fyddai'n iawn inni arfer 'Shoah' felly ar gyfer y digwyddiad arbennig dan sylw, a'r trosiad 'Distryw' ar gyfer y genus yn hytrach na'r species.?
Yn gywir iawn,
Tim
>>> Roger Fenton <[log in to unmask]> 07/05 10:23 am >>>
Annwyl Tim a phawb,
Rydw i wedi holi barn ffrind da, sydd yn Iddew uniongred yn y Swistir,
ynglyn a^'r gwahanol cynigiadau. Mae fe o'r barn y mae "Y Shoah" yw'r gorau.
Rhesymau:
1. Mae'n bodoli yn barod mewn nifer o ieithoedd, a 'does dim pwynt ini fod
yn wahanol er mwyn bod yn wahanol; mae benthyciadau termau addas a pharod o
ieithoedd eraill (yn enwedig ieithoedd ar wahan a^ Saesneg!) yn berthaith iawn.
2. Shoah yw'r term sydd yn cael ei ddefnyddio gan yr Iddewon eu hun ac mae
nhw yn hybu iddo gael ei ddefnyddio gan bawb. Mewn achos fel hyn 'rwyn
cynnig ei fod hi'n iawn i ildio i'w gofynnion nhw.
3. Mae'r term yn barod wedi datblygu perthynas arbennig at y Rhyfel mewn
ieithoedd eraill.
Gyda llaw, y term Roma yw "O Porrajmos". Fe fyddwn i yn tueddu defnyddio
termau gwahanol pan yn trafod y gwahanol grwpiau (sydd yn cynnwys hefyd y
Comiwnddion, gwrywgydwyr, yr anabl, a'r Slafiaid i raddau) aw wahan, ac "y
Shoah" hefyd (neu ta beth yw'r Gymraeg am "Endloesung" neu "genocide") pan
yn trafod y digwyddiad yn gyffredinol.
Yr eiddoch yn gywir,
Roger Fenton
Roger Fenton
Cynorthwy-ydd Ymchwil / Research Assistant
Information Automation Ltd.
c/o Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth
/ Department of Information and Library Studies
Prifysgol Cymru Aberyswtyth / University of Wales Aberystwyth
Campws Llanbadarn Fawr / Llanbadarn Fawr Campus
Aberystwyth, Ceredigion SY23 3SA
ffon / phone: +44(0)1970 621 805
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|