Ystyr 'outsource', term o'r un stabl a 'downsize', yw diswyddo nifer o'ch staff ac wedyn 'wahodd' rai o'r tu allan i'ch trefniant chi - yr un bobl, yn aml iawn, i wneud yr un gwaith (neu fwy) ar lai o gyflog ac ar delerau llawer gwaeth. Gair teg cyfoes yw hwn am hen ystryw digon syml. Tybed a oes rhyw derm neu ymadrodd addas a chyhyrog o fyd y chwareli neu'r glofeydd ers talwm?
>>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 07/21 8:07 am >>>
Dw i ddim yn hollol sicr o ystyr "outsource" ond dw i'n amau ei fod yn reit
debyg yn ei broblemau i "obtain", h.y. nad yw fel arfer yn golygu rhagor na
"prynu", ond bod 'na adegau pan nad yw arian yn newid dwylo, neu pan nad
ydych yn sicr a yw hynny'n digwydd.
Rhag creu jargon newydd, onid ellir defnyddio geiriau cyfarwydd i wneud y
Gymraeg yn fwy dealladwy (accessible) na'r Saesneg. Beth am ryw gyfuniad
megis "prynu/cael/caffael (o ffynhonnell allanol); darganfod ffynhonnell
allanol o".
Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|