Tra 'roeddwn i'n byw yn Chicago ac yn astudio Iaith Arwyddion Americaneg,
fe ces i'r teimlad cryf bod a bobl byddar sydd yn defnyddio IAA (ASL) fel
eu hiaith gyntaf yn gweld eu hunaun fel grwp ethnig (IAA yw'r trydedd iaith
yr Unol aleithiau, ar o^l Saesneg a Sbaeneg), a nid oeddent yn ystyried
pobl byddar a oedd yn "oralist" fel rhan o'r grwp, gan nad oedd y rhai a
oedd yn darllen gwefusau yn unig yn siarad yn un iaith: "Saeson" oedden
nhw! (Rwyn disgrifio'r sefyllfa tua 1971-72). Mae Tim yn iawn am y ffaith
nad oedd y bobl byddar a oedd yn defnyddio IAA fel eu hiaith gyntaf yn
gweld eu hunain fel pobl anabl, mor bell ag y mae'r UDA yn y cwestiwn; dydw
i ddim yn sicr am y sefyllfa yma.
Dydy i ddim yn hapus gyda "gwrtharwyddwr" am "oralist", gan ei fod e'n
ffurf negyddol o ddisgrifio. Nag oes modd bositif? Fel rhywun sydd yn
darllen gwefusau yn aml, 'rwyn gweld fy hunan fel gwefus-ddarllenwr, yn
hytrach na rhywun sydd yn erbyn defnyddio arwyddion: i bobl sydd yn fyddar
iawn, rydw i'n hybu yr ieithoedd arwyddion (mae sawl un, wrth gwrs). Ond
mae sawl arweinydd o'r garfan "oralist" yn wir yn ffyrnig yn erbyn
arwyddion o hyd.
A oes rhywun wedi cysylltu a Phifysgol Gallaudet yn Washington DC?
(http://www2.gallaudet.edu/) Nhw yw'r unig brifysgol ar gyfer pobl byddar
yn y byd.
At 20:14 11/07/00 +0100, you wrote:
>
>----- Original Message -----
>From: Tim Saunders <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Thursday, July 06, 2000 10:16 AM
>Subject: Re: Byddar
>
>
>> Oes, y mae angen pendant, gan fod 'byddar' yn dynodi cyflwr awdiolegol tra
>bo 'Byddar' yn mynegi hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol. Nid yw rhai sy'n
>eu disgrifio'u hunain fel 'Byddar' yn canfod eu sefyllfa gymdeithasol fel un
>lle mae'r cysyniad o anabledd yn berthnasol. Yn yr amgylchiadau, nid yw swn
>y gair mor bwysgig ag y gallai fod!
>>
>> Mae 'gwrthwrwyddwr' yn swnio'n addawol iawn.
>>
>> Tim Saunders
>>
>> >>> Ann Corkett <[log in to unmask]> 07/05 4:16 pm >>>
>> "byddar/Byddar" - A oes angen gwahaniaethu o gwbl. Sut yr awgrymir
>> gwahaniaethu wrth siarad?
>> "oralist" - ??Gwrtharwyddwr
>>
>> Bruce Griffiths
>>
>>
>>
>
>
>
Roger Fenton
Cynorthwy-ydd Ymchwil / Research Assistant
Information Automation Ltd.
c/o Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth
/ Department of Information and Library Studies
Prifysgol Cymru Aberyswtyth / University of Wales Aberystwyth
Campws Llanbadarn Fawr / Llanbadarn Fawr Campus
Aberystwyth, Ceredigion SY23 3SA
ffon / phone: +44(0)1970 621 805
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|