"Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic" fel y dywedodd rhywun doeth ryw
dro (wrth drosi ymadrodd Gwyddeleg sy'n mynegi'r un peth mae'n debyg - a
bydd y Celtiaid da yn eich plith yn gallu nghywiro i fan hyn - "Nios fearr
Gaeilge cliste no Bearla briste"). David Bullock.
Onid addasiad o'r dywediad sydd yn y fan hyn, yn hytrach na throsiad? Mae
ystyr yr ymadrodd Gwyddeleg yn hollol fel arall - gwell Gwyddeleg 'dechau'
na Saesneg carbwl - hynny yw, o adeg pan oedd y Gwyddelod yn mynegi ei
hunain yn well yn eu iaith frodorol, ond yn mynnu mynd yn Saeson. Ond rhaid
cytuno - er mor lletwith mae rhywrai yn siarad Cymraeg weithiau o ddiffyg
arfer, mae'n well o lawer na'r iaith fain - ac wrth gwrs arfer yw mam pob
meistrolaeth.
________________________________________________________________________
Get Your Private, Free E-mail from MSN Hotmail at http://www.hotmail.com
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|