Sut mae trosi'r term yma i Gymraeg? Mae holocôst yn dra anfoddhaol am nifer o resymau. Ar wahan i'r ffaith ei fod yn drawslytheniad echrydus o'r Groeg, mae'r term yma yn trosi churban ('poethoffrwm' yr HD) yn hytrach na shoah. Tri ateb i'r broblem sy'n eu cynnig eu hunain:
1 Trosi'r Groeg, fel yn Wyddeleg (uileloscadh) > 'Yr Holl-losgiad' (OND fe fyddai hynny'n cymryd yn ganiataol safbwynt ddiwinyddol ofnadwy o ddadleuol - ac un nad oes prin neb, am y gwn i, yn ei harddel.)
2 Trawslythrennu'r Hebraeg, > 'Y Shoah'
3 Cyfieithu'r Hebraeg. Ym Meibl WIlliam Morgan, 'distryw' a geir yn fynych >'Y Distryw'
Beth yw barn yr aelodau?
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|