Mae'n amlwg bod hwn bellach wedi mynd yn "buzz-word" - unrhyw gynigion? - ym
myd busnes ayyb. Dogfen Cyngor Celfyddydau Cymru sy gen i ar y gweill ac
mae'r gair yn codi'i ben dro ar ôl tro. Yr agosa fedra i ddod ato fo ydi o
Beibil Bruce - pobl y mae'u lles nhw ynghlwm â'r busnes - sy'n ardderchog ar
un ystyr gan ei fod yn cyfleu ystyr y gair yn berffaith - yn wir, mae'n
ddiffiniad o'r gair - ond mae'n gallu mynd braidd yn glogyrnaidd o'i
ddefnyddio dro ar ôl tro mewn dogfen. Rhywbeth mwy snappy ar gynnig?
Annes
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|