Yn yr etholiad cyffredinol dwetha y dechreuodd y gair Saesneg gael ei
ddefnyddio rwy'n meddwl, pan aeth Llafur ati i sôn am y 'stakeholder
economy' etc. Dyna'r tro cyntaf i fi ei glywed beth bynnag, ac rwy'n credu
mai 'cyfran-ddeiliaid' oedd y gair ym maniffesto Plaid Lafur Cymru at yr
etholiad hwnnw.
A dweud y gwir, mae geirfa wleidyddol ddiddorol iawn yn y maniffesto hwnnw,
a gafodd ei drosi gan gyfieithydd annibynnol nid anenwog o Gaerdydd.
-----Original Message-----
From: Annes Gruffydd [mailto:[log in to unmask]]
Sent: Tuesday, June 13, 2000 11:14 PM
To: termau
Subject: stakeholders
Mae'n amlwg bod hwn bellach wedi mynd yn "buzz-word" - unrhyw gynigion? - ym
myd busnes ayyb. Dogfen Cyngor Celfyddydau Cymru sy gen i ar y gweill ac
mae'r gair yn codi'i ben dro ar ôl tro. Yr agosa fedra i ddod ato fo ydi o
Beibil Bruce - pobl y mae'u lles nhw ynghlwm â'r busnes - sy'n ardderchog ar
un ystyr gan ei fod yn cyfleu ystyr y gair yn berffaith - yn wir, mae'n
ddiffiniad o'r gair - ond mae'n gallu mynd braidd yn glogyrnaidd o'i
ddefnyddio dro ar ôl tro mewn dogfen. Rhywbeth mwy snappy ar gynnig?
Annes
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|