Diolch Ann - mae Melangell yn gyrru'r sylwadau ata'i.
Mae'n debyg fod cynnig arbennig wedi bod unwaith am Trados, ond erbyn hyn
mae'n ddrud eto! Yn ystod y seminar gawsom ni yn Abertawe, fe ddwedodd y
cynrychiolydd fod fersiwn newydd ar gyfer Office 2000 ar fin dod allan (wedi
dod allan erbyn hyn, dybiwn i). Dydwi ddim yn defnyddio Office 2000, felly
byddai'r fersiwn gwreiddiol yn gwneud y tro.
Os oes modd talu dros 3 mis, mae hynny'n llai poenus! :o)
Mae gen i fersiwn brawf, ond pan ddefnyddiais i hwnnw'r tro cyntaf, ddaeth
na'r un awgrym o gwbl, gan nad oedd y gwaith yn ailadroddus. Mae gwaith ar
y gorwel allai elwa o ddefnyddio Trados, felly bydd rhaid i mi ddwys
ystyried y mater!
Hwyl fawr
Catrin
----- Original Message -----
From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: 03 May 2000 14:52
Subject: Re: Meddalwedd Cyfieithu
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|