Dyma derfyn, digamsyniol, i'r ddadl yma, 'ddyliwn i. Pleser ydyw darganfod fod
yna ryw lwchyn o ddoniolrwydd yn yddangos, weithiau, ar y safle "Termau
Cymraeg". Byddai i ni gael profi 'chydig yn amlach rai o syniadau Richard Hughes
ar dermau Cymraeg addas i'r ddefnydd a wneir o gyfrifiaduron, yn ddelfrydol i
bawb ohonnom sydd a diddoredeb yn y pwnc. Sych iawn, a rhwysgfawr eu hansawdd
hefyd, ydyw y rhan fwyaf o'r atebion a ddaw, yn gyffredin, i'r safle hon.
MT
Jasper, AB
[log in to unmask] wrote:
> Ysgrifennodd Mark Nodine <[log in to unmask]>
> >[log in to unmask] wrote:
> >>
> >> Oddi wrth: Richard Hughes <[log in to unmask]>
> >> Testun: To boot or not to boot [operating systems that is]
> >>
> >> Y term yr wyf yn ei defnyddio yma yw 'sbarduno' neu 'ysbarduno'
> >> [cyffelybiaeth: ysbarduno ceffyl].
>
> >Y prif broblem efo "sbarduno" yw'r ail ystyr o "sbardun" i
> >olygu "accelerator" y car. Mae hynny'n swnio imi fel eich
> >bod chi'n cyflymu'r cyfrifiadur yn lle ei gychwyn.
>
> Efallai ond dyma'r rhesymeg neu'r afresymegolrwydd [os dymunwch] a dyma
> cyfatebiaeth: -
> yr hyn sydd yn digwydd yw bod prosesydd y cyfrifiadur yn 'cychwyn' yn syth
> ar o^l iddo dod o dan foltedd; fel arfer, mae'r cadarnwedd yn ufuddhau
> gorchmynion rhaglenni prawf yn annherfynol hyd at yr ennyd pan dde^l ymyriad
> (mewnol neu allanol e.e. cloc neu'r cyfrifiadurwr yn taro allwedd) sydd,
> o ganlyniad, yn ei achosi i wedd weithredu rhaglen arall e.e. 'sbarduno'
> y system gweithredu - hynny yw, 'gwneud elfen o waith o fudd' o safbwynt y
> sawl sydd yn defnyddio y cyfrifiadur. Pan ddychmygwyf ceffyl, gyda marchog ar
> ei gefn, yn cnoi cil - dyma cyflwr y cyfrifiadur yn syth ar o^l iddo cael ei
> troi ymlaen - yn sydyn, 'llwybreiddiodd ei rhyfeddod prin o'i flaen'
> [ymddiheuriad i Wilpar] wele! Y marchog yn plannu ei sbardunau yn ei geffyl
> - dyma cyflwr y cyfrifiadur ar o^l derbyn yr ymyriad - ac o hyn ymlaen mae'r
> ceffyl yn cychwyn ar garlam a'r cyfrifiadur yn ymgychwyn ei hun.
>
> Teimlaf bod y term 'sbarduno' yn addasach [ac yn fwy 'cymreigaidd']
> na chyfieithiadau sydd yn tarddu o'r term americanaidd 'boot' sydd yn cyfleu
> bron dim o'r hyn sydd yn digwydd ond sydd yn cael ei defnyddio [o hyd] am
> resymau hanesyddol yn unig [os cofiaf yn gywir, tua 1960, IPL oedd yn cael ei
> defnyddio ym Mhrydian sef Initial Program Loader a 'boot' neu 'bootstrap' yn
> tarddu o gwmniau RCA/UNIVAC]; erbyn hyn 'boot' piau hi yn anffodus.
> Nid oes rhaid efelychu priod-ddull anghywir, anaddysgiadol wrth
> fathu term yn y Gymraeg ac nid yw termau fel 'llwytho' neu 'cicio' neu
> 'cychwyn' yn hollgynhwysfawr ychwaith.
>
> Fy ngwerth gro^t.
>
> Richard Hughes
>
> Gesellschaft beratender Informatiker mbH
> Muenchen
> Yr Almaen
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|