Annwyl Catrin,
Roeddwn i'n clywed dy fod wedi bod ar y ffôn efo Melangell. Mae'n siwr dy
fod wedi cael y diweddaraf ganddi hi. Yr unig un y gwn i ei bod wedi bod
yn ei ddefnyddio yw Ann Corkett. Mae'n ymatgeb yn gyson i'r drafodaeth ar
dermau. Byddai hi yn gallu rhoi ei barn. Yr unig beth arall y gwn i yw
bod y Cynulliad yn ystyried ei brynu ond eu bod yn gorfod rhoi cynnig ar
feddalwedd arall hefyd cyn penderfynu pa un i'w fentro.
Fy marn gyffredinol yw os wyt yn gwneud gwaith ailadroddus iawn bod mantais
i ddefnyddio meddalwedd fel hyn ond os yw dy waith yn amrwyio yn fawr does
ddim llawer o fantais. Mae'n fanteisiol i gwmniau gan ei fod yn fodd o
sicrhau cysondeb.
Cadwa mewn cysylltiad.
Megan ,m ei e-bost At 11:07 03/05/00 +0100, you wrote:
>Dwi'n ystyried prynu Trados. All unrhyw un fy nghynghori yn hyn o beth?
>Profiadau da/profiadau negyddol?
>
>Diolch
>
>Catrin
>
>
>
>
>
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|