Oddi wrth: Richard Hughes <[log in to unmask]>
Pwnc: Re: y Dorbib / y Telgorn
Diolch i Andrew Hawke <[log in to unmask]> am y wybodaeth. Y peth a oedd
yn f'ymddidori yn bennaf oedd sut y geill geiriau o raglen
swyddogol y Genedlaethol 'diflannu' oddi mewn tipyn llai na chanrif
(hynny yw 'y broses' yn hytrach na'r ddwy enghraifft); a oes rhagor o
engreifftiau? A ydym yn bathu geiriau (o'r Saesneg) heddiw lle bo hen
eiriau anghofiedig addas(ach) ar gael?
[Breuddwydiais neithiwr fod yr Athro Deri Tomos wedi cael gafael
ar delgyrn a'u trawsblygu'n oboau 'trwy addasu eu genynnau'. O diar mi!].
Cofion atoch chwi oll,
Richard Hughes
Gesellschaft beratender Informatiker mbH
Muenchen
Yr Almaen
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|