Deallaf fod cynlluniau ar y gweill i ddiwygio'r Termiadur Ysgol ac yna ei
osod ar y Rhyngrwyd. Yn sgil hynny, tybed a fyddai modd i ni gael naill ai
arweiniad neu gysondeb yn y termau hynny sydd bellach yn cynnwys '-iwl' ar
ôl bod yn '-wl' yn y gorffennol.
Rwy'n gorfod troi'n gyson at y Termiadur i gael gweld pa rai sydd wedi
newid. Er enghraifft, bore heddiw mae gen i perpendicwlar, fformiwla a
modiwl ar yr un dudalen o destun. Efallai yfory y byddaf yn gorfod gwirio
moleciwl, modwlws ac ofwl, i enwi dim ond tri.
A oes egwyddor yn sail i'r gwahaniaethau hyn? Os oes, byddwn yn falch o
wybod er mwyn ceisio ei dilyn. Mae'n anodd iawn cofio pob un ac rwy'n blino
byseddu'r Termiadur.
Huw
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|