> A oes ffordd gliriach o wahaniaethu rhwng "administrators" a "servers"
> na "gweinyddwyr" a "gweinyddion"?
Yn bersonol dwi ddim yn hoffi'r ffaith fod administrate wedi ei
gyfieithu fel 'gweinyddu'. Mae 'adweinyddu' ychydig yn well, ond dwi
ddim yn credu fod y gair Cymraeg yn rhoi'r ystyr cywir.
Mae yna duedd nawr i gyfieithu 'server' fel 'gwasanaethwr', sydd eto
ddim yn hollol gywir (mae e fel dweud 'servicer') ond efallai'n
dderbyniol os oes rhaid gwahaniaethu.
|