Byddwn i'n dadlau nad oes angen y gair 'meddwl' ar ôl 'canolbwyntio'. Allwch
chi ganolbwyntio unrhyw ran arall o'r corff? (Fe all hwn'na fod yn gwestiwn
peryglus!)
Hyd y gwela i, tair enghraifft sydd ar y we o 'canolbwyntio' + 'meddwl' yn
dilyn ei gilydd, a'r tair mewn cyfieithiadau. Does dim un enghraifft o'r
cyfuniad mewn darnau o Gymraeg naturiol. (Byddai'n ddiddorol gwybod a yw
Geiriadur y Brifysgol wedi'i gofnodi fel ymadrodd.).
Rhaid dweud 'mod i'n hoffi 'hoelio sylw' fel cyfieithiad o 'to concentrate'
ond bydda i bob amser yn rhyw lech-feddwl am yr ymadrodd yn nhermau 'to nail
one's attention'. Clefyd y cyfieithydd, sbo!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 11, 2008 2:42 PM
Subject: Re: to concentrate minds
Ydi, mae'n ferf gyflawn ac anghyflawn felly.
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 11, 2008 2:28 PM
Subject: Re: to concentrate minds
Yn ôl, GPC, mae "canolbwyntio" yn "bg.a". Ydi hynny'n helpu?
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.4.7/1545 - Release Date: 10/07/2008
18:43
|