Helo Tegau
Dyma'r holiadur roeddet ti wedi ei anfon ata i. Pob hwyl iti gyda'r gwaith
ymchwil.
Cofion
Tegwen
----- Original Message -----
From: "Tegau Andrews" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, August 20, 2007 3:43 PM
Subject: ydych chi'n fodlon helpu gydag ymchwil?
Annwyl Gyfieithwyr,
Rydw i wedi cael fy ariannu gan Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd i gyflawni
ymchwil
doethuriaeth ym maes cyfieithu gwefannau yng Nghymru. Fel rhan o'r ymchwil,
rydw i wrthi'n anfon holiaduron maes i gyfieithwyr yng Nghymru, gan
obeithio,
trwy hyn, gael syniad o ddulliau gweithio cyffredinol cyfieithwyr yn y wlad
hon.
Mae ambell un wedi llenwi'r holiadur yn barod, ond mae angen llawer mwy o
adborth arnaf i. Rydw i'n gobeithio y bydd y gwaith gorffenedig o ddefnydd
i'r
diwydiant cyfieithu yng Nghymru, ond allaf i ddim gwneud yr ymchwil yma heb
eich help chi!
Does dim angen i chi fod yn arbenigwr ar gyfieithu gwefannau - yr unig
ragofyniad yw eich bod chi'n gweithio fel cyfieithydd!
Rydw i wedi anfon yr holiadur fel atodiad gyda'r neges hon. Os oes gennych
chi
amser i'w lenwi, fe allwch chi un ai ei anfon nôl trwy e-bost at
[log in to unmask], neu ei anfon trwy'r post at:
Tegau Andrews
Ysgol Ieithoedd Modern
Prifysgol Cymru Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG.
Llenwch yn llu! (Lle mae gofyn am ganrannau, rhowch fras amcan yn unig.)
Mi fyddaf yn gwerthfawrogi eich help chi yn fawr iawn.
Cofion cynnes,
Tegau
--
This mail sent through http://webmail.bangor.ac.uk
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|