Print

Print


Byddwn i'n ffafrio 'darparu' gan ei fod eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn
rhai engreifftiau llafar. Mae 'traddodi' yn swnio braidd yn hen ffasiwn gan
fod llawer yn defnyddio'r ymadrodd 'rhoi darlith' erbyn hyn.


----------
> From: D.Prys <[log in to unmask]>
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Traddodi'r cwricwlwm
> Date: 02 December 1999 13:42
> 
> Mae 'delivery' yn derm erchyll o anodd i'w gyfieithu am fod cymaint o
> wahanol ystyron iddo. Mae 'darparu' wedi ennill ei blwyf ym maes
> Gwasanaethau Cymdeithasol yn yr ymadrodd 'service delivery', sef 'darparu
> gwasanaeth'. A ydi 'darparu addysg' yn addas felly, neu a oes rhywun yn
> rhywle yn mynd i hollti blew rhwng 'provide' a 'deliver'?
> 
> "Roberts, Huw" wrote:
> > 
> > Rwy'n aml iawn yn gorfod cyfleu yn y Gymraeg y syniad o ysgolion a
cholegau
> > yn 'rhoi' neu 'gyflwyno' neu 'draddodi' addysg i'w disgyblion a'u
myfyrwyr.
> > Yr termau cyfatebol poblogaidd yn y Saesneg yw 'deliver/delivery'.
> > 
> > Ni allaf feddwl am unrhyw ymadrodd Cymraeg sy'n cyfleu'r syniad yn
ddiamwys.
> > Er enghraifft, mae 'cyflwyno' yn gallu golygu cymaint o bethau eraill,
> > 'rhoi' yn rhy llac, 'gweithredu' yn rhy bell o'r gwir ystyr.
> > 
> > Rwy'n dechrau ffafrio 'traddodi' gan ddilyn y syniad o draddodi
darlith. Sut
> > byddech chi'n hoffi darllen mewn dogfennau addysgol am athrawon yn
> > traddodi'r cwricwlwm i ddisgyblion neu am yr angen i roi sylw i'r modd
y
> > traddodir addysg neu am gyflwyno a gweithredu dulliau traddodi newydd?
> > 
> > Rwyf wedi ceisio argyhoeddi fy hun y gellir osgoi cyfieithu
> > 'deliver/delivery' ond mae'n mynnu codi ei ben dro ar ôl tro.
> > 
> > Huw Roberts
> 
> -- 
> ------------ 
>          @bangor.ac.uk


%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%