Sector twristiaeth Cymru yn dechrau ailagor wrth i gyfyngiadau gael eu llacioBydd sector twristiaeth Cymru yn gallu dechrau ailagor dydd Sadwrn 27 Mawrth wrth i'r rheol aros yn lleol gael ei chodi, yn ôl cyhoeddiad gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog. Bydd y rheolau hefyd yn cael eu newid i ganiatáu gweithgareddau awyr agored a chwaraeon wedi'u trefnu i blant a phobl ifanc dan 18 oed a hyd at chwech o bobl o ddwy aelwyd wahanol i gyfarfod ac ymarfer corff yn yr awyr agored. Mae'r llacio'n parhau â dull cam wrth gam arfaethedig Llywodraeth Cymru o lacio'r cyfyngiadau coronafeirws, gan ystyried yr amrywiolyn hynod heintus yng Nghaint, sef ffurf amlycaf y feirws yng Nghymru erbyn hyn. Dyma gamau olaf y llacio yn y cylch adolygu tair wythnos hwn ac maent yn dilyn llwyddiant disgyblion cynradd a llawer o fyfyrwyr hŷn mewn ysgolion uwchradd a cholegau yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb a dechrau ailagor manwerthu nad yw'n hanfodol fesul cam, gan gynnwys agor siopau trin gwallt. Mae Cymru'n symud allan o rybudd lefel pedwar, ac yn awr yn dechrau symud i lefel tri. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried mesurau rhybudd lefel tri pellach yn yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau. Meddai y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae'r llacio pellach hwn yn rhan o'n dull gofalus a graddol o ddatgloi'r cyfyngiadau a galluogi pobl a busnesau i ailddechrau eu gweithgareddau yn y ffordd fwyaf diogel posibl. "Dim ond oherwydd yr aberth y mae pawb ledled Cymru wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf y gallwn wneud hyn – mae popeth rydych chi'n ei wneud i gadw'ch anwyliaid yn ddiogel hefyd yn cadw Cymru'n ddiogel. "Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau'n sefydlog; mae ein rhaglen frechu anhygoel yn mynd o nerth i nerth – mae’n bosibl gwneud y newidiadau hyn."
Bydd llety gwyliau hunangynhwysol, gan gynnwys gwestai â chyfleusterau en-suite a gwasanaeth ystafell, yn gallu ailagor i bobl o'r un aelwyd neu swigod cymorth. Bydd y rheol aros yn lleol yn cael ei disodli gan ardal deithio dros dro i Gymru gyfan, a fydd yn parhau i fod ar waith tan 12 Ebrill, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd. Am y pythefnos nesaf, dim ond y rhai sydd ag esgus rhesymol, megis gwaith, fydd yn gallu teithio i mewn i Gymru neu allan o Gymru. Bydd y cyfyngiadau presennol ar deithio rhyngwladol ar gyfer gwyliau yn parhau. Newidiadau eraill: - Bydd chwech o bobl o ddwy aelwyd wahanol, ac eithrio plant o dan 11 oed, yn gallu cyfarfod ac ymarfer corff yn yr awyr agored ac mewn gerddi preifat;
- Bydd gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu a chwaraeon i blant a phobl ifanc dan 18 oed yn gallu ailddechrau;
- Bydd rhai ardaloedd awyr agored yn agor gyda chyfyngiadau a rhai lleoedd a gerddi hanesyddol;
- Bydd llyfrgelloedd ac archifau yn gallu ailagor.
Meddai y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Rydym yn cymryd dull cam wrth gam tuag at lacio'r cyfyngiadau ac eisiau parhau i allu agor Cymru. "I wneud hynny mae angen help pawb arnom. Mae hynny'n golygu cadw'n wyliadwrus am arwyddion o’r haint; ynysu os oes gennym symptomau a threfnu i gael prawf. "Mae hefyd yn golygu dilyn y camau sylfaenol i'n cadw ni i gyd yn ddiogel tra byddwn ni allan – gan gadw ein pellter oddi wrth eraill; peidio â chymysgu dan do; osgoi torfeydd; golchi ein dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb."
Cynhelir yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau yr wythnos nesaf. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y llacio canlynol, a ddaw i rym o’r 12 Ebrill, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd: - Gall pob disgybl a myfyriwr ddychwelyd i ysgolion, colegau ac addysg arall;
- Gall pob siop a gwasanaeth cyswllt agos agor;
- Llacio’r cyfyngiad dros dro o ardal deithio ledled Cymru.
Rhaid i fusnesau twristiaeth a lletygarwch roi pob mesur rhesymol ar waith i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws ac ni ddylent dderbyn cwsmeriaid os ydynt yn ymwybodol eu bod yn torri’r rheolau ar gyfyngiadau teithio. Coronafeirws (COVID-19) Canllawiau i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch Wrth i ni edrych ar ailagor yn raddol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch. Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel. Bwriad y mesurau ychwanegol canlynol yw rhoi cyngor pellach i fusnesau llety hunangynhwysol a rhaid eu hystyried yn unol â Chanllawiau UKHospitality Wales a'r Canllawiau Twristiaeth a Lletygarwch. Dylai busnesau hefyd ystyried, lle bo'n briodol: - Cryfhau eu polisi ar waredu gorchuddion wyneb yn ddiogel ar gyfer staff ac ymwelwyr
- Cyflwyno mesurau i staff ac ymwelwyr, ar ôl cyrraedd, megis cymryd profion tymheredd, gofyn i bobl ddiheintio eu dwylo a gofyn cwestiynau ynghylch a ydynt yn arddangos unrhyw symptomau.
- Ystyried llif y gwesteion/ymwelwyr a sut i osgoi cymysgu unrhyw aelwyd drwy gadw gwesteion/ymwelwyr ar wahân wrth iddynt symud o amgylch y safle drwy gydol eu hymweliad/arhosiad, gan roi sylw arbennig i fannau cyhoeddus caeedig fel lifftiau, grisiau a choridorau
- Cyfarwyddo gwesteion/ymwelwyr i symud drwy fannau cyhoeddus caeedig cyn gynted â phosibl, ac i osgoi gweiddi neu ganu mewn ardaloedd o'r fath
- O fewn llety, sicrhau bod gwesteion yn cadw'r drysau i'w hystafelloedd ar gau bob amser, ar wahân i'r adeg pan fyddant yn mynd i mewn ac yn gadael.
- Sicrhau fod trefn bob yn ail ar gyfer gwasanaeth ystafell/dosbarthu gwasanaeth golchi ac ati i ystafelloedd, er mwyn osgoi gwesteion yn agor drysau ac yn dod allan ar yr un pryd.
- Adolygu eu gweithdrefnau digwyddiadau ac achosion brys er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r egwyddorion cadw pellter corfforol cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys ystyried sut i leihau cymysgu cartrefi wrth ymgasglu mewn mannau ymgynnull tân.
Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Coronafeirws hefyd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar Llyw.Cymru. Sylwch, nid yw'r rhain eto'n cynnwys y newidiadau diweddaraf a gynlluniwyd i gyfyngiadau a gyhoeddwyd heddiw - edrychwch yn ôl yn rheolaidd. Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. |
|
|
|
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiantRydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr. |