Print

Print


 

FYI

 

From: Croeso Cymru <[log in to unmask]> 
Sent: 26 March 2021 10:16
To: Whittaker, Carol (ESNR - Tourism, Heritage & Sport - Culture & Sport) <[log in to unmask]>
Subject: Bwletin Newyddion: Sector twristiaeth Cymru yn dechrau ailagor wrth i gyfyngiadau gael eu llacio; Coronafeirws (COVID-19) Canllawiau i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch

 

	
 







Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

	

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

26 Mawrth 2021

  _____  






  _____  


Sector twristiaeth Cymru yn dechrau ailagor wrth i gyfyngiadau gael eu llacio


Bydd sector twristiaeth Cymru yn gallu dechrau ailagor dydd Sadwrn 27 Mawrth wrth i'r rheol aros yn lleol gael ei chodi, yn ôl cyhoeddiad gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog.

Bydd y rheolau hefyd yn cael eu newid i ganiatáu gweithgareddau awyr agored a chwaraeon wedi'u trefnu i blant a phobl ifanc dan 18 oed a hyd at chwech o bobl o ddwy aelwyd wahanol i gyfarfod ac ymarfer corff yn yr awyr agored.

Mae'r llacio'n parhau â dull cam wrth gam arfaethedig Llywodraeth Cymru o lacio'r cyfyngiadau coronafeirws, gan ystyried yr amrywiolyn hynod heintus yng Nghaint, sef ffurf amlycaf y feirws yng Nghymru erbyn hyn.

Dyma gamau olaf y llacio yn y cylch adolygu tair wythnos hwn ac maent yn dilyn llwyddiant disgyblion cynradd a llawer o fyfyrwyr hŷn mewn ysgolion uwchradd a cholegau yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb a dechrau ailagor manwerthu nad yw'n hanfodol fesul cam, gan gynnwys agor siopau trin gwallt.

Mae Cymru'n symud allan o rybudd lefel pedwar, ac yn awr yn dechrau symud i lefel tri. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried mesurau rhybudd lefel tri pellach yn yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau.

Meddai y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Mae'r llacio pellach hwn yn rhan o'n dull gofalus a graddol o ddatgloi'r cyfyngiadau a galluogi pobl a busnesau i ailddechrau eu gweithgareddau yn y ffordd fwyaf diogel posibl.

"Dim ond oherwydd yr aberth y mae pawb ledled Cymru wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf y gallwn wneud hyn – mae popeth rydych chi'n ei wneud i gadw'ch anwyliaid yn ddiogel hefyd yn cadw Cymru'n ddiogel.

"Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau'n sefydlog; mae ein rhaglen frechu anhygoel yn mynd o nerth i nerth – mae’n bosibl gwneud y newidiadau hyn."

Bydd llety gwyliau hunangynhwysol, gan gynnwys gwestai â chyfleusterau en-suite a gwasanaeth ystafell, yn gallu ailagor i bobl o'r un aelwyd neu swigod cymorth.

Bydd y rheol aros yn lleol yn cael ei disodli gan ardal deithio dros dro i Gymru gyfan, a fydd yn parhau i fod ar waith tan 12 Ebrill, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd. Am y pythefnos nesaf, dim ond y rhai sydd ag esgus rhesymol, megis gwaith, fydd yn gallu teithio i mewn i Gymru neu allan o Gymru. 

Bydd y cyfyngiadau presennol ar deithio rhyngwladol ar gyfer gwyliau yn parhau.

Newidiadau eraill:

*	Bydd chwech o bobl o ddwy aelwyd wahanol, ac eithrio plant o dan 11 oed, yn gallu cyfarfod ac ymarfer corff yn yr awyr agored ac mewn gerddi preifat;
*	Bydd gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu a chwaraeon i blant a phobl ifanc dan 18 oed yn gallu ailddechrau;
*	Bydd rhai ardaloedd awyr agored yn agor gyda chyfyngiadau a rhai lleoedd a gerddi hanesyddol;
*	Bydd llyfrgelloedd ac archifau yn gallu ailagor.

Meddai y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Rydym yn cymryd dull cam wrth gam tuag at lacio'r cyfyngiadau ac eisiau parhau i allu agor Cymru.

"I wneud hynny mae angen help pawb arnom. Mae hynny'n golygu cadw'n wyliadwrus am arwyddion o’r haint; ynysu os oes gennym symptomau a threfnu i gael prawf.

"Mae hefyd yn golygu dilyn y camau sylfaenol i'n cadw ni i gyd yn ddiogel tra byddwn ni allan – gan gadw ein pellter oddi wrth eraill; peidio â chymysgu dan do; osgoi torfeydd; golchi ein dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb."

Cynhelir yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau yr wythnos nesaf. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y llacio canlynol, a ddaw i rym o’r 12 Ebrill, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd: 

*	Gall pob disgybl a myfyriwr ddychwelyd i ysgolion, colegau ac addysg arall;
*	Gall pob siop a gwasanaeth cyswllt agos agor;
*	Llacio’r cyfyngiad dros dro o ardal deithio ledled Cymru.

  _____  

Rhaid i fusnesau twristiaeth a lletygarwch roi pob mesur rhesymol ar waith i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws ac ni ddylent dderbyn cwsmeriaid os ydynt yn ymwybodol eu bod yn torri’r rheolau ar gyfyngiadau teithio.

  _____  


Coronafeirws (COVID-19) Canllawiau i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch 


Wrth i ni edrych ar ailagor yn raddol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.

Bwriad y mesurau ychwanegol canlynol yw rhoi cyngor pellach i fusnesau llety hunangynhwysol a rhaid eu hystyried yn unol â Chanllawiau UKHospitality Wales a'r Canllawiau Twristiaeth a Lletygarwch.

Dylai busnesau hefyd ystyried, lle bo'n briodol:

1.	Cryfhau eu polisi ar waredu gorchuddion wyneb yn ddiogel ar gyfer staff ac ymwelwyr
2.	Cyflwyno mesurau i staff ac ymwelwyr, ar ôl cyrraedd, megis cymryd profion tymheredd, gofyn i bobl ddiheintio eu dwylo a gofyn cwestiynau ynghylch a ydynt yn arddangos unrhyw symptomau.
3.	Ystyried llif y gwesteion/ymwelwyr a sut i osgoi cymysgu unrhyw aelwyd drwy gadw gwesteion/ymwelwyr ar wahân wrth iddynt symud o amgylch y safle drwy gydol eu hymweliad/arhosiad, gan roi sylw arbennig i fannau cyhoeddus caeedig fel lifftiau, grisiau a choridorau
4.	Cyfarwyddo gwesteion/ymwelwyr i symud drwy fannau cyhoeddus caeedig cyn gynted â phosibl, ac i osgoi gweiddi neu ganu mewn ardaloedd o'r fath
5.	O fewn llety, sicrhau bod gwesteion yn cadw'r drysau i'w hystafelloedd ar gau bob amser, ar wahân i'r adeg pan fyddant yn mynd i mewn ac yn gadael.
6.	Sicrhau fod trefn bob yn ail ar gyfer gwasanaeth ystafell/dosbarthu gwasanaeth golchi ac ati i ystafelloedd, er mwyn osgoi gwesteion yn agor drysau ac yn dod allan ar yr un pryd.
7.	Adolygu eu gweithdrefnau digwyddiadau ac achosion brys er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r egwyddorion cadw pellter corfforol cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys ystyried sut i leihau cymysgu cartrefi wrth ymgasglu mewn mannau ymgynnull tân.

Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Coronafeirws hefyd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar Llyw.Cymru.  Sylwch, nid yw'r rhain eto'n cynnwys y newidiadau diweddaraf a gynlluniwyd i gyfyngiadau a gyhoeddwyd heddiw - edrychwch yn ôl yn rheolaidd.

  _____  






Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19


Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 

*	Lefel rhybudd 4 – 

*	Beth sydd angen i chi ei wneud ar lefel rhybudd 4 

*	Cynllun rheoli’r coronafeirws:

*	Lefelau rhybudd diwygiedig yng Nghymru (Mawrth 2021)
*	Chanllaw syml i'r system lefel rhybudd coronafeirws

*	Canllawiau i fusnesau twristiaeth a lletygarwch
*	Gwybodaeth Coronafeirws
*	Canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol i bawb yng Nghymru
*	Cynllun Adfer ar gyfer y sector Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau: Dewch i lunio’r dyfodol.

  _____  


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant


Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 

  _____  

Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.

  _____  



Methu gweld yr ebost hwn? Ewch ar-lein





 

  _____  

Gallwch ddiweddaru eich tanysgrifiadau, newid eich cyfrinair neu eich cyfeiriad e-bost, neu ddileu tanysgrifiadau ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi i'ch cyfrif.

  _____  


Anfonwyd yr e-bost hwn at [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>  gan ddefnyddio GovDelivery, ar ran: Llywodraeth Cymru





Sganiwyd y neges hon am bob feirws hysbys wrth iddi adael Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd o ddifrif yr angen i ddiogelu eich data. Os cysylltwch â Llywodraeth Cymru, mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a sut rydym yn diogelu eich preifatrwydd. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn anfon ateb yn Gymraeg i ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. On leaving the Welsh Government this email was scanned for all known viruses. The Welsh Government takes the protection of your data seriously. If you contact the Welsh Government then our Privacy Notice <https://gov.wales/about/welsh-government-privacy-notice/?lang=en>  explains how we use your information and the ways in which we protect your privacy. We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding. 


########################################################################

To unsubscribe from the WELSHMUSEUMSFED list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/WA-JISC.exe?SUBED1=WELSHMUSEUMSFED&A=1

This message was issued to members of www.jiscmail.ac.uk/WELSHMUSEUMSFED, a mailing list hosted by www.jiscmail.ac.uk, terms & conditions are available at https://www.jiscmail.ac.uk/policyandsecurity/