Print

Print


Helo! (ENGLISH BELOW)
Rydw i, Ffion a Penny wedi bod yn setlo mewn i’n gwaith newydd fel cynrychiolwyr Cymdeithas yr Amgueddfeydd yng Nghymru, ac rwy’n credu ein bod ni’n barod i gyflwyno ein hun i’r byd nawr!
Mae yna mwy amdanom ni - pwy ydym ni a beth ydyn ni’n ei wneud, yn y cylchlythyr atodedig, sy’n dangos newyddion diweddara'r MA. Os ydych yn defnyddio Twitter, mae ein dolenni yna hefyd.
 
Y newyddion pennaf, a’r peth sydd angen i ni weithio arni yn syth dros yr wythnosau nesaf, yw bod y Gymdeithas wedi cyhoeddi ei galwad am sesiynau ar gyfer cynhadledd 2021, ac Ebrill 5ed yw’r dyddiad cau. Byddai hi’n wych cael ffocysu ar rhai esiamplau o’n gwaith gwych ni yng Nghymru, ac mae’r tri ohonom ni yn awyddus i helpu mewn unrhyw fodd i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. Plîs, plîs cysylltwch os gallwn ni helpu mewn unrhyw ffordd o gwbl.
 
 
Hwyl am y tro,
Ffion, Will a Penny (cyfeiriadau e-bost uniongyrchol yn y blwch ‘cc’ uchod)
 
 
Hi! 
Myself, Ffion and Penny have been finding our feet over the last few weeks in our new roles as MA reps in Wales, and I think we’re ready to introduce ourselves to the world now!
There’s more about who we are and what we do in the roundup of MA news that we’ve attached to this email.
IF you use Twitter, our Twitter handles are on there as well.
 
The biggest news, and the thing that we need to focus on over the next few weeks, is that the call for sessions for this year’s conference has been released, and the deadline is April 5th. It would be amazing to feature some of our fantastic Welsh projects in the programme, and the three of us are really keen to do what we can to help make this happen.
Please, please, please get in touch if we can support you in any way.
 
All the best for now, 
Ffion, Will and Penny (cc’d into this email if you need our individual addresses).


To unsubscribe from the WELSHMUSEUMSFED list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/WA-JISC.exe?SUBED1=WELSHMUSEUMSFED&A=1