Print

Print


Bwletin Newyddion: Cyhoeddwyd heddiw – “Dewch inni Lunio’r Dyfodol: gweithio mewn partneriaeth i ail-greu dyfodol cadarn i’r economi ymwelwyr yng Nghymru”

FYI

 

From: Croeso Cymru <[log in to unmask]>
Sent: 22 March 2021 16:51
To: Whittaker, Carol (ESNR - Tourism, Heritage & Sport - Culture & Sport) <[log in to unmask]>
Subject: Bwletin Newyddion: Cyhoeddwyd heddiw – “Dewch inni Lunio’r Dyfodol: gweithio mewn partneriaeth i ail-greu dyfodol cadarn i’r economi ymwelwyr yng Nghymru”

 

 

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Image removed by sender. Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

22 Mawrth 2021


Image removed by sender. Covid


Cyhoeddwyd heddiw – “Dewch inni Lunio’r Dyfodol: gweithio mewn partneriaeth i ail-greu dyfodol cadarn i’r economi ymwelwyr yng Nghymru

Mae cynllun adfer newydd ar gyfer y sector twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau bellach wedi'i gyhoeddi. Wedi'i ddatblygu mewn ymgynghoriad â'r Tasglu Twristiaeth ac wedi'i lywio gan sgwrs eang â grwpiau, rhanddeiliaid a busnesau pwysig eraill ar draws y sector, mae'r cynllun yn cynnwys fframwaith partneriaeth a rennir o themâu hanfodol y bydd ymyriadau'n cael eu hadeiladu o'u cwmpas i gefnogi busnesau drwy adferiad tymor byr i ganolig. Mae'r 8 thema hanfodol yn cynnwys:

  1. Cefnogi busnesau.
  2. Gwerthfawrogi pobl.
  3. Ailagor yn ddiogel.
  4. Ailennyn hyder defnyddwyr.
  5. Ysgogi a rheoli galw.
  6. Datblygu economïau ymwelwyr lleol.
  7. Trawsnewid y sector i fod yn fwy cydnerth.
  8. Datblygu cynlluniau adfer wedi’u teilwra.

O ystyried y llwybr ansicr tuag at adferiad i'r diwydiant, y bwriad yw i'r cynllun hwn esblygu, gan ddarparu pont bwysig yn ôl i'r Cynllun Strategol ar gyfer y sector "Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025".

Mae'r cynllun yn argymell y dylid ffurfio Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ddatblygu cynllun gweithredu mwy tactegol gan gynnwys mwy o fanylion y tu ôl i'r ymyriadau a’r arweinwyr cyflawni y cytunwyd arnynt. Rhoddir ystyriaeth bellach i sut y caiff y grŵp hwn ei ffurfio a'r Cylch Gorchwyl cysylltiedig.

Hoffai Croeso Cymru ddiolch i'r diwydiant am eu cyfraniad amhrisiadwy i lunio'r cynllun hwn, ac edrychwn ymlaen at barhau â'r sgyrsiau hyn dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


Image removed by sender. HomepageImage removed by sender. FacebookImage removed by sender. TwitterImage removed by sender. Instagram


Anfonwyd yr e-bost hwn at [log in to unmask] gan ddefnyddio GovDelivery, ar ran: Llywodraeth Cymru

Image removed by sender. GovDelivery logo

Image removed by sender.

Sganiwyd y neges hon am bob feirws hysbys wrth iddi adael Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd o ddifrif yr angen i ddiogelu eich data. Os cysylltwch â Llywodraeth Cymru, mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a sut rydym yn diogelu eich preifatrwydd. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn anfon ateb yn Gymraeg i ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. On leaving the Welsh Government this email was scanned for all known viruses. The Welsh Government takes the protection of your data seriously. If you contact the Welsh Government then our Privacy Notice explains how we use your information and the ways in which we protect your privacy. We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.



To unsubscribe from the WELSHMUSEUMSFED list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/WA-JISC.exe?SUBED1=WELSHMUSEUMSFED&A=1