Rhif 14 • Mawrth 2021
Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth – Ymgynghoriad ar Reoliadau a Chanllawiau DrafftBydd yr ymgynghoriad deuddeg wythnos ar y rheoliadau a’r canllawiau drafft ar gyfer cytundebau partneriaeth dreftadaeth yn cau ar 12 Ebrill 2021, felly mae tua mis ar ôl i rannu’ch safbwyntiau neu gynnig sylwadau ar yr asesiadau effaith ategol. Cytundebau gwirfoddol yw cytundebau partneriaeth dreftadaeth ar gyfer rheolaeth hirdymor o henebion ac adeiladau rhestredig. Perchnogion, awdurdodau cydsynio a phartïon eraill â buddiant sy’n ffurfio’r cytundebau hyn. Gallant gynnwys caniatadau adeiladau rhestredig a/neu henebion ar gyfer rhaglen waith y cytunwyd arni i’w chwblhau yn ystod oes y cytundeb, a allai bara cyhyd â 10 i 15 mlynedd. Mae’r holl ddogfennau a’r cyfarwyddiadau llawn ar sut i ymateb i’r ymgynghoriad ar dudalen yr ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru. Papur Gwyn Bil Amaethyddiaeth (Cymru) - YmgynghoriadDim ond wythnos ar ôl i gyfrannu at yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Bapur Gwyn Bil Amaethyddiaeth (Cymru), sy’n cau ar 26 Mawrth 2021. Mae cysylltiad agos rhwng amaethyddiaeth Cymru a rheoli a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol, felly manteisiwch ar y cyfle i gyflwyno’ch sylwadau. Ewch i dudalen yr ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru i weld yr holl ddogfennau a chyfarwyddiadau ar sut i ymateb. Rebuilding HeritageMae Rebuilding Heritage yn rhaglen DU gyfan sy’n cael ei chydgysylltu gan The Heritage Alliance. Caiff ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i chyflwyno drwy bartneriaeth gyda Clore Leadership, Creative United, y Chartered Institute of Fundraising a’r Media Trust. Mae rhaglen Rebuilding Heritage yn darparu cymorth un-i-un a grŵp am ddim i unigolion a sefydliadau yn y sector treftadaeth. Bydd cynnig y rhaglen yn cynnwys hyfforddiant grŵp newydd ar lythrennedd ariannol, marchnata digidol a chynhwysiant yn y gweithle, yn ogystal â chynigion o gymorth ym meysydd cynllunio busnes, cyfathrebu, codi arian, materion cyfreithiol, arweinyddiaeth a lles. Mae ceisiadau’n agored a’r dyddiad cau yw 11pm dydd Mawrth 30 Mawrth 2021. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn y cylch hwn yn derbyn eu cymorth gydol misoedd Mai a Mehefin 2021. Ewch i wefan Rebuilding Heritage i gael rhagor o wybodaeth a manylion sut i wneud cais.
Trysorau’r Filltir SgwârMae Cadw wedi lansio Trysorau’r Filltir Sgwâr i annog pobl o bob cwr o Gymru i archwilio’r dreftadaeth ar garreg eu drws. Nod y prosiect yw ysbrydoli pawb i ddarganfod hanes, pensaernïaeth a straeon lleol sydd ar gael yn hawdd o fewn eu milltir sgwâr ac o fewn taith gerdded 15 munud i’w cartref. Mae adnabod y cysylltiadau hyn â’r gorffennol yn ein helpu i gysylltu â nhw drwy ymdeimlad o hanes cyffredin â’n cymunedau heddiw. Byddwch nid yn unig ar eich ennill wrth ddarganfod pethau annisgwyl am dreftadaeth eich ardal, ond byddwch hefyd yn mynd allan i’r awyr agored ac yn cael lles corfforol a meddyliol. Mae Cadw wedi dechrau’r prosiect gan ddefnyddio StoryMaps digidol i ddatgelu treftadaeth sawl lleoliad yng Nghymru. Bydd StoryMaps newydd yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd i greu banc o straeon am leoliadau ledled Cymru a fydd yn ysbrydoli darllenwyr i greu eu stori dreftadaeth 15 munud eu hunain. Mae Cadw hefyd wedi creu pecyn i ysgolion sy’n gwahodd plant i ymchwilio i drysorau eu milltir sgwâr ac i rannu eu canfyddiadau yn eu cymuned leol. Ewch i dudalennau Trysorau’r Filltir Sgwâr ar wefan Cadw i wybod mwy. |