Ymddiheuriade, nid cwestiwn terminolegol ydy hwn. Dw i'n gweld pethau fel hyn yn amlach amlach:
The new document will be available from September.
Bydd y ddogfen newydd ar gael o fis Medi.
Ydw i'n iawn i fynnu ychwanegu 'ymlaen' ar ddiwedd y frawddeg yma? Derbyn mai o'r Saesneg y daeth y patrwm cyfan mae'n siŵr, ond i fi mae'n taro'n rhyfedd iawn heb yr 'ymlaen' ac yn swnio fel cyfieitheg.
Gwerthfawrogir eich barn!
Diolch,
Osian