Print

Print

Dwi'n gweld dy bwynt di, ond mae anhawster y gweithgaredd yn dod wedyn yn y diffiniad. A deud y gwir, dwi di cael llond bol ar y petha ma - deuddydd ar eu hyd yn cyfieithu disgrifiada byrion ffilmia, i gyd yn ymwneud a rhyw fath neu'i gilydd o weithgaredd eithafol, cyfanswm llai na mil o eiria, ac i gyd yn berwi o jargon dealladwy i afficinados yn unig - ges i hyd i wefan 'Mountain Biking Slang' oedd yn rhywfaith o help - duw a'm gwaredo, na allwn ddianc o hon! Diolch beth bynnag!

Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

Il giorno lun 24 feb 2020 alle ore 12:18 Eluned Mai <[log in to unmask]> ha scritto:
Tybed a ddylid ychwanegu'r gair 'dyrys' neu rywbeth i'r un perwyl - 'bowldro uchel dyrys'?  Dwi'n cael yr argraff bod mynd i'r afael â dringfa anodd iawn gyda phroblemau y mae'n rhaid llwyddo i'w datrys yn rhan o'r gamp a'r term Saesneg.  Gallet ti roi 'highball bouldering' mewn cromfachau ar ei ôl i fod yn saff a rhoi cyfieithiad o'r diffiniad wedyn i gadarnhau'r ystyr.

Eluned

On Mon, Feb 24, 2020 at 6:38 AM anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:
Diolch. Hynna'n ateb y diben dwi'n meddwl.

Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

Il giorno dom 23 feb 2020 alle ore 22:23 Osian Rhys <[log in to unmask]> ha scritto:
Mae TermCymru yn cynnig 'bowldro' gan nodi mai dyna mae Cymdeithas Fynydda Cymru yn ei ddefnyddio. Fyddai modd dweud 'bowldro uchel' neu rywbeth tebyg am highball bouldering?

Osian

Ar Gwen, 21 Chwef 2020 am 10:40 anna gruffydd <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
Disgrifiad o ffilm sydd dan sylw.

Nina specialises in highball bouldering – climbing tall boulders of extreme difficulty, without a rope – 

Roeddwn yn bwriadu rhoi'r diffiniad yn lle trio cyfieithu'r geiriau  'highball bouldering' ond fedra i ddim gwneud hynny gan fod y diffiniad yn dilyn. Hyd y gwela i, y peth gorau i'w wneud fyddai gadael y geiria hynny yn Saesneg - dwi ddim yn gweld be arall fedra i'i wneud, fedra i ddim rhoi'r diffiniad ddwywaith. Diolch am unrhyw gyngor.

Anna  

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1