Print

Print


Dwi'n gweld dy bwynt di, ond mae anhawster y gweithgaredd yn dod wedyn yn y
diffiniad. A deud y gwir, dwi di cael llond bol ar y petha ma - deuddydd ar
eu hyd yn cyfieithu disgrifiada byrion ffilmia, i gyd yn ymwneud a rhyw
fath neu'i gilydd o weithgaredd eithafol, cyfanswm llai na mil o eiria, ac
i gyd yn berwi o jargon dealladwy i afficinados yn unig - ges i hyd i wefan
'Mountain Biking Slang' oedd yn rhywfaith o help - duw a'm gwaredo, na
allwn ddianc o hon! Diolch beth bynnag!

Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!


Il giorno lun 24 feb 2020 alle ore 12:18 Eluned Mai <[log in to unmask]>
ha scritto:

> Tybed a ddylid ychwanegu'r gair 'dyrys' neu rywbeth i'r un perwyl -
> 'bowldro uchel dyrys'?  Dwi'n cael yr argraff bod mynd i'r afael â
> dringfa anodd iawn gyda phroblemau y mae'n rhaid llwyddo i'w datrys yn rhan
> o'r gamp a'r term Saesneg.  Gallet ti roi 'highball bouldering' mewn
> cromfachau ar ei ôl i fod yn saff a rhoi cyfieithiad o'r diffiniad wedyn
> i gadarnhau'r ystyr.
>
> Eluned
>
> On Mon, Feb 24, 2020 at 6:38 AM anna gruffydd <[log in to unmask]>
> wrote:
>
>> Diolch. Hynna'n ateb y diben dwi'n meddwl.
>>
>> Anna
>> Ye who opt for cut'n'paste
>> Tread with care and not in haste!
>>
>>
>> Il giorno dom 23 feb 2020 alle ore 22:23 Osian Rhys <[log in to unmask]>
>> ha scritto:
>>
>>> Mae TermCymru yn cynnig 'bowldro' gan nodi mai dyna mae Cymdeithas
>>> Fynydda Cymru yn ei ddefnyddio. Fyddai modd dweud 'bowldro uchel' neu
>>> rywbeth tebyg am highball bouldering?
>>>
>>> Osian
>>>
>>>
>>>
>>> Ar Gwen, 21 Chwef 2020 am 10:40 anna gruffydd <[log in to unmask]>
>>> ysgrifennodd:
>>>
>>>> Disgrifiad o ffilm sydd dan sylw.
>>>>
>>>> Nina specialises in highball bouldering – climbing tall boulders of
>>>> extreme difficulty, without a rope –
>>>>
>>>> Roeddwn yn bwriadu rhoi'r diffiniad yn lle trio cyfieithu'r geiriau  'highball
>>>> bouldering' ond fedra i ddim gwneud hynny gan fod y diffiniad yn dilyn. Hyd
>>>> y gwela i, y peth gorau i'w wneud fyddai gadael y geiria hynny yn Saesneg -
>>>> dwi ddim yn gweld be arall fedra i'i wneud, fedra i ddim rhoi'r diffiniad
>>>> ddwywaith. Diolch am unrhyw gyngor.
>>>>
>>>> Anna
>>>>
>>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>>> Tread with care and not in haste!
>>>>
>>>> ------------------------------
>>>>
>>>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following
>>>> link:
>>>>
>>>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>>>>
>>>
>>> ------------------------------
>>>
>>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following
>>> link:
>>>
>>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>>>
>>
>> ------------------------------
>>
>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following
>> link:
>>
>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>>
>
> ------------------------------
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following
> link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1