Tybed a ddylid ychwanegu'r gair 'dyrys' neu rywbeth i'r un perwyl - 'bowldro uchel dyrys'? Dwi'n cael yr argraff bod mynd i'r afael â dringfa anodd iawn gyda phroblemau y mae'n rhaid llwyddo i'w datrys yn rhan o'r gamp a'r term Saesneg. Gallet ti roi 'highball bouldering' mewn cromfachau ar ei ôl i fod yn saff a rhoi cyfieithiad o'r diffiniad wedyn i gadarnhau'r ystyr. Eluned On Mon, Feb 24, 2020 at 6:38 AM anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote: > Diolch. Hynna'n ateb y diben dwi'n meddwl. > > Anna > Ye who opt for cut'n'paste > Tread with care and not in haste! > > > Il giorno dom 23 feb 2020 alle ore 22:23 Osian Rhys <[log in to unmask]> ha > scritto: > >> Mae TermCymru yn cynnig 'bowldro' gan nodi mai dyna mae Cymdeithas >> Fynydda Cymru yn ei ddefnyddio. Fyddai modd dweud 'bowldro uchel' neu >> rywbeth tebyg am highball bouldering? >> >> Osian >> >> >> >> Ar Gwen, 21 Chwef 2020 am 10:40 anna gruffydd <[log in to unmask]> >> ysgrifennodd: >> >>> Disgrifiad o ffilm sydd dan sylw. >>> >>> Nina specialises in highball bouldering – climbing tall boulders of >>> extreme difficulty, without a rope – >>> >>> Roeddwn yn bwriadu rhoi'r diffiniad yn lle trio cyfieithu'r geiriau 'highball >>> bouldering' ond fedra i ddim gwneud hynny gan fod y diffiniad yn dilyn. Hyd >>> y gwela i, y peth gorau i'w wneud fyddai gadael y geiria hynny yn Saesneg - >>> dwi ddim yn gweld be arall fedra i'i wneud, fedra i ddim rhoi'r diffiniad >>> ddwywaith. Diolch am unrhyw gyngor. >>> >>> Anna >>> >>> Ye who opt for cut'n'paste >>> Tread with care and not in haste! >>> >>> ------------------------------ >>> >>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following >>> link: >>> >>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 >>> >> >> ------------------------------ >> >> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following >> link: >> >> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 >> > > ------------------------------ > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following > link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1