Print

Print


Bore da Mary,

 

Dydw i ddim yn arbenigwr addysg, ond yn gyn-athrawes ac gweithio’n glerc i lywodraethwyr fy ysgol Gymraeg leol. Rydw i’n gyfarwydd a’r term yn nghyd-destun recriwtio, lle mae 1 yn cynrychioli swydd llawn amser, a phob diwrnod (neu oriau yn cyfateb i hynny) werth 0.2 – felly byddai swydd 0.4 yn golygu gweithio deuddydd, 0.6 yn golygu gweithio 3 diwrnod yr wythnos, a 0.5 yn golygu 2.5 diwrnod. Dydw i erioed wedi clywed neb yn rhannu diwrnod ysgol i gyfnodau fel hyn, na’n defnyddio’r gair ‘patch’. Efallai byddai’n werth holi’r cleient ymhellach?

 

Rebecca

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Mary Jones
Anfonwyd: Dydd Sul, 23 Chwefror 2020 17:28
At: [log in to unmask]
Pwnc: Patch

 

Yn y maes Addysg, wrth benodi i swydd oes rhywun yn gwybod beth yr ystyr ‘patch’, os gwelwch yn dda, fel yn ‘A 0.5 patch will allow for practice’. Ai ‘cyfnod’, sef cyfnod o 0.5 awr neu ddiwrnod? Gesio ydw.

Mary

 


To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1



To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1