Ac wedi edrych yn ol ar GPC, "dalltai bwyll dellt ebillTo" yw'r enghraifft yno (rhaid mod i wedi chwilio yno cryn amser yn ol)- ond yr ystyr a roddir yw "To a sicrheir â phegiau neu ebillion"
Tybed a all Andrew Hawke egluro hyn?

Ann

On 23/02/2020 17:16, Ann Corkett wrote:
[log in to unmask]">

'Roeddwn i newydd ddod o hyd i rywbeth arall yn y llyfr 'ma yn Google Books ac wrthi'n archebu o Abebooks pan ddaeth eich neges - ond HEB edrych ynddo am y cyfeiriad yr ydych chi wedi dod o hyd iddo!

"Dalltai bwyll dellt ebillio" - well, dyna beth od: "ebillto" sydd yn fy nghopi i, sydd yn rhywbeth hollol wahanol yn ol GPC - dim syndod nad oeddwn i'n medru dod o hyd iddo!

Llawer iawn o ddiolch,

Ann

On 23/02/2020 17:07, Sion Rees Williams wrote:
[log in to unmask]">
Helo Ann,

Ddrwg gen i am y ddolen hir ond dyma beth ddarganfyddais i yn "Googe Books"

"Dalltai bwyll dellt ebeillio; …"
"He understood the art of piercing a shattered shield; …"




Cofion,

Y Bnr/Mr/M Siôn Rees WILLIAMS  MA (Celtic Studies), LLB. (Hons.), Cert. TESOL, MCIL.
(Siôn o Ewrop)

Cyfreithiwr trwy hyfforddiant, Ieithydd wrth alwedigaeth
Lawyer by training, Linguist by profession
Notaire de formation, Linguiste de profession

Llysgenhadaeth Ddiwylliannol Cymru/Welsh Cultural Embassy/Ambassade Culturelle du Pays de Galles
62 Northview Road
DUNSTABLE
Bedfordshire
LU5 5HB
Lloegr/England/Angleterre

Tel: + 44 (0)1582 476 288

Web:

http://www.ciol.org.uk/translator/profile/30542/36/542




On Sunday, 23 February 2020, 16:23:43 GMT, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:



'Rwy'n cyfieithu'r brawddegau canlynol:

Iolo Goch of Lleweny (c.1325-1400) wrote a seventy-two line poem 'Marwnad Tudur Fychan o Benmynydd' (Elegy for Tudur Fychan of Penmynydd). In it, Tudur is described as 'carw Tre'rcastl' (The stag of Tre'rcastell), and he was also said 'to understand the art of piercing a shattered shield’.


Iolo Goch also wrote the poems – 'Praise of Tudur Fychan's sons' and 'Elegy for Tudur Fychan's Sons'.[1] The four sons mentioned, were the children of Tudur's first wife, Mallt vch Madog of Penllyn. Iolo called the sons, 'chief jousters of Môn' and 'Lords of the island'.



[1]  Translations by Professor Dafydd Johnson

Fel y gwelwch, nodir bod yr *ail" set o gyfieithiadau gan Dafydd Johnson, er nad yw hi'n glir ai fo gyfieithodd y gerdd gyntaf.

Y cyfan sydd gen i yw cerddi gwreiddiol Iolo Goch, ac 'rwyf wedi dod ar draws darnau sy'n cyfateb i'r dyfyniadau yn yr ail baragraff, ond dim byd 'rwy'n sicr ohono i gyfieithu 'to understand the art of piercing a shattered shield’. Yr agosaf y gallaf ei weld ato yw "Aesawr oedd fawr iddo'i faich". Rhaid cyfaddef nad ydw i'n gyfarwydd iawn ag iaith Beirdd yr Uchelwyr.

Oes gen rywun gopi o gyfieithiadau Dafydd Johnson, os mai fo gyfieithodd y darn cyntaf, ac yn medru dweud wrthyf beth yw rhif y llinell. Neu os oes gennych chi gopi o "Marwnad Tudur Fychan" a allech chi ddweud wrthyf ba linell(au) sy'n golygu 'to understand the art of piercing a shattered shield’?

Rhaid dweud imi ddod ar draws sawl gwall yn y testun gwreiddiol, felly fuaswn i ddim yn synnu gormod o gael bod y dyfyniad yn dod o ryw gerdd arall!

Llawer o ddiolch,

Ann




To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1



To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1



To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1



To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1