Print

Print


 

cid:image001.jpg@01D4FF40.E9368080

 

 

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn eich gwahodd i fynychu:

 

Gorffennol digidol 2020: Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan

 

12 – 13 o Chwefror 2020

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

 

Mae cofrestru ar agor

Cynhadledd ddeuddydd flynyddol wedi’i threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n canolbwyntio ar dechnolegau a thechnegau digidol arloesol ar gyfer cipio data, dehongli a lledaenu gwybodaeth am dreftadaeth Cymru, y DU a thu hwnt yw Gorffennol Digidol. Mae’n dwyn ynghyd unigolion o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol, ac o’r trydydd sector, a’i nod yw hybu trafodaeth a gwybodaeth am y technolegau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol.

Cost Cofrestru am y ddau ddiwrnod yw £109, gan gynnwys cinio a lluniaeth ar y ddau ddiwrnod. I gofrestru ewch i: Cofrestru
 
Gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig, fe’ch cynghorir i gofrestru’n gynnar.
 
Cynigir cyfuniad o gyflwyniadau, sesiynau seminar a gweithdai ac arddangosiadau ymarferol i’r cynadleddwyr mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a’r nod yw hybu cyfnewid syniadau a hwyluso rhwydweithio. Darperir sesiynau anghynhadledd yn ystod y prynhawn cyntaf, i roi cyfle i gynadleddwyr nad ydynt ar yr amserlen ffurfiol wneud cyflwyniadau ar brosiectau, ymchwil, syniadau neu faterion sy’n cyd-fynd neu ddim yn cyd-fynd â themâu’r digwyddiad eleni.

Bydd stondinau arddangosfa yn rhoi cyfle i arddangos prosiectau neu gynhyrchion ac i siarad â chyrff treftadaeth, cymdeithasau, prifysgolion, datblygwyr cynhyrchion ac adwerthwyr.
 
Y themâu ar gyfer 2020 fydd ‘Technoleg Digidol’ a ‘Treftadaeth Ddigidol’.
 
I gael gwybodaeth am y siaradwyr a’r rhaglen ewch i: Sylwadau a Chrynodebau

I gael gwybodaeth am gludiant a llety ewch i: Gwybodaeth Defnyddiol
 
Tîm Gorffennol Digidol
 
#gorffennoldigidol2020
 
BYDDWCH CYSTAL Â CHYLCHREDEG Y NEGES HON I UNRHYW GYDWEITHWYR A ALL FOD Â DIDDORDEB YN Y GYNHADLEDD. YMDDIHEURIADAU AM GROES-BOSTIO.

 

 

The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales invites you to attend:

 

Digital Past 2020: New technologies in heritage, interpretation and outreach

 

12 – 13 February 2020

Aberystwyth Arts Centre

 

Registration is open

 

Organised by the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales, Digital Past is an annual two-day conference which showcases innovative digital technologies for data capture, interpretation and dissemination of the heritage of Wales, the UK and beyond. Bringing together individuals from the commercial, public, academic, third sector and voluntary sectors, the conference aims to promote learning, discussion and debate around a range of digital technologies in current use, or in development, to record and understand the historic environment.

Registration cost for the two days is £109, including lunch and refreshments on both days. To register please go to: Registration 
 
Limited places are available and early registration is advised.
 
Delegates will be offered a combination of presentations, seminar sessions and hands-on workshops and demonstrations in a friendly and informal atmosphere that aim to promote the exchange of ideas and facilitate networking. Unconference sessions will be provided on the first afternoon, giving the opportunity for delegates not on the formal timetable to give presentations on projects, research, ideas or issues within or outside the strict themes of this year’s event.

Exhibition stands provide an opportunity for displays and the demonstration of projects or products, and the chance to talk to heritage organisations, societies, universities, product developers and retailers.
 
The themes for 2020 will be ‘Digital Technology’ and ‘Digital Heritage’.
 
For information on speakers and the programme, please go to: Speakers and Abstracts

For information on travel and accommodation, please go to: Useful Information
 
The Digital Past Team
 
#digitalpast2020
 
PLEASE CIRCULATE THIS MESSAGE TO ANY COLLEAGUES YOU FEEL MAY BE INTERESTED IN ATTENDING. APOLOGIES FOR CROSS-POSTING.

 

 

 

 

 

 

Cofrestrwch Yma

 

Register Here

 

 

 

 

Charles Green
Dysgwr
Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd (Graffigwaith) | Public Engagement Officer (Graphics)
Ffordd Penglais | Penglais Road, Aberystwyth, SY23 3BU
+44 (0) 1970 621 220
[log in to unmask] | [log in to unmask]
www.cbhc.gov.uk | www.rcahmw.gov.uk
Noddir gan Lywodraeth Cymru | Sponsored by Welsh Government
Facebook
Twitter
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn peri oedi.
We welcome correspondence in Welsh and English. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.
 
 
 
Yn unol â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016, mae gennych hawl i gyfathrebu a gohebu â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn eich dewis iaith. Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r hawl, rhowch wybod i ni a ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth a/neu alwadau ffôn oddi wrthym yn y Gymraeg. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chofnodi gennym ni, a byddwn yn defnyddio'r iaith o’ch dewis ym mhob cyfathrebu yn y dyfodol. Diolch.
Under the Welsh Language Standards (No. 2) Regulations 2016, you have the right to communicate and correspond with the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales in your preferred language. To ensure we uphold this right, please let us know whether you wish to receive correspondence and/or telephone calls from us in Welsh. This information will be recorded by us, and we will use your preferred language in all future communication. Thank you.

 
 
 
 
 
 


To unsubscribe from the ARCHIVES-WALES list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=ARCHIVES-WALES&A=1