lwc na doedd hi ddim yn neges angerddol o bersonol te!!😂

Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!


Il giorno mar 31 dic 2019 alle ore 15:05 Ann Corkett <[log in to unmask]> ha scritto:
Annwyl Gerald,

Sut mae? Gobeithio ichi'ch dau fwynhau Nadolig dymunol. Anfonodd Bruce
ei gerdyn atoch cyn imi orffen f'Adroddiad Blynyddol Saesneg, felly dyma
fo'n gynwysiedig.

Deallais nad oeddech chi ar frys o gwbl i weld y copi 'na o Brut y
Tywysogion y soniais i amdano, felly 'rwyf wedi'i cadw'n ol dros dro.
Byddaf yn mynd ag o i gyfarfod mis Chwefror ein cangen ni o Gymdeithas y
Rhwymwyr Llyfrau, cyfarfod "show and tell", fel enghraifft o sut i
beidio a rhwymo llyfr.

Tybed, gyda llaw, a sylasoch chi yn Y Casglwr mai'r nawfed o Fai fydd
dyddiad Ffair Lyfrau'r Morlan? Tybed a allen ni fwcio noson o wely a
brecwast efo chi - os na fydd rhywbeth pwysicach yn codi yn y cyfamser
i'ch rhwystro chi rhag ein derbyn ni?

Mae gen i gais arall hefyd. 'Rwyf newydd anfon at grwp trafod termau ar
y we, mewn penbleth ynghylch term mewn nifer o hen ewyllysiau. Wedi imi
son wrth Bruce, dywedodd y dylwn fod wedi troi atoch chi, fel rhywun a
chryn brofiad o ddarllen hen ewyllysiau. Mae'r ymholiad isod. Tybed a
allech chi wneud unrhyw synnwyr o'r mater?

Gyda phob dymuniad da ichi ac Enid ar gyfer 2020.

Ann - a Bruce

On 31/12/2019 13:43, Ann Corkett wrote:
> Tybed a oes gan rywun wybodaeth gyfreithiol fyddai'n fy helpu?
>
> 'Rwyf wrthi'n cyfieithu i'r Gymraeg gynnwys tair hen ewyllys. Mae'r
> tair yn cynnwys ymadrodd tebyg i hyn :
>
> 'the rest and residue of his goods, cattels, chattels and creditts
> whatsoever as well moveable & immoveable'
>
> Mae digon o enghreifftiau ar y we o'r rhan fwyaf o'r ymadrodd - ond
> nid y "cattels", ac er imi ddod ar draws UN enghraifft lle mae
> 'cattel' mewn ewyllys yn cyfeirio at degell, nid yw hynny'n gwneud
> fawr o synnwyr ar gyfer rhywbeth a fu unwaith, mae'n amlwg, yn derm
> cyfreithiol cyffredin. Wrth gwrs, mi allai olygu 'da byw', ond 'does
> dim byd i gadarnhau hynny 'chwaith.
>
> Oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth?
>
> Diolch - a phob dymuniad da i bawb ar gyfer y flwyddyn newydd, fydd
> efallai wedi cyrraedd cyn i lawer ohonoch ddarllen hyn.
>
> Ann
>
>

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1


To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1