Mae James Hook yn un oedd yn disgyn i’r categori hwn yn aml – fel mae’r erthygl hon yn ei nodi, “Fel chwaraewr sydd yn gyfforddus fel canolwr, cefnwr neu faswr mae Hook yn gwybod ei fod yn ddefnyddiol i unrhyw garfan.”
https://golwg360.cymru/chwaraeon/rygbi/202000-james-hook-a-phwynt-iw-brofi-yng-nghwpan-y-byd
Disgrifir Hook fel “olwr amryddawn” yn yr erthygl. Efallai y gall rhywun sy’n deall Rygbi yn well na fi ddweud wrthyn ni a ydi “cefnwr” yn well ar gyfer full-back (gwisgwr y crys rhif 15), ac yna “olwr” ac “olwyr” wedyn ar gyfer pawb y tu ôl i’r sgrym.
Huw
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> Ar ran/On Behalf Of Gareth Jones
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 12 Tachwedd 2019 10:09
At: [log in to unmask]
Pwnc: Utility back
Cyfeiriad at chwaraewr rygbi sydd yma:
Ulster and Ireland utility back, Will Addison comes from a long line of farmers.
Dwi ddim yn arbenigwr ar rygbi, ond dwi’n credu bod utility yn cyfeirio at y ffaith y gellir defnyddio’r chwaraewr hwn i lenwi nifer o safleoedd cefnwyr.
Fyddai ‘cefnwr amryddawn’ yn cyfleu hyn (amryddawn efallai’n ansoddair rhy gryf)? Neu ‘cefnwr hyblyg’ efallai? Fe wnes i hefyd feddwl am ‘gefnwr hwylus’ ond mae ‘hwylus’ yn swnio’n fwy addas i ddisgrifio teclyn neu beiriant.
Unrhyw gynigion gwell os gwelwch yn dda?
Sent from Mail for Windows 10
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1