Mae'n swnio fel mwy o "lock-in" na "lockdown" - ond "yfed hwyr" ydy hynny yn ol GyrA . :-)

Ar Llun, 25 Tach 2019 am 11:45 Claire Richards <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
Onid yr awgrym yn y gair 'lockdown' yw nad oes neb yn cael gadael nes bod y grŵp wedi dod o hyd i atebion?  Gweler hefyd 'conclave'.

Mae'n bosibl bod angen esbonio'r peth yn Gymraeg - 'sesiwn seiadu â'r drysau dan glo'?

Claire

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 25 November 2019 11:33
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Lockdown

Mae Bruce wedi bod yn meddwl am hyn. Byddai'n awgrymu "cyfyng-gyngor", ond mae ystyr i hwnnw eisoes, sef "Cyfyngder meddwl gan amheuaeth ac ansicrwydd, penbleth, dryswch:

quandary, perplexity, embarrassment." A fyddai hynny'n ffitio? Neu beth am "cyfyng-drafodaeth".

Tybed pam dewiswyd "lockdown"? Dramatig, wrth gwrs, ond nid dyna ei ystyr, ond "a state of isolation or restricted access instituted as a security measure" e.e. pan fydd rhywun wrthi'n saethu pawb o fewn cyrraedd. Gallaf ddychmygu'r panig tasai myfyriwr yn ateb galwad gan ei fam, yn dweud "Sorry, I can't talk now; we're in a lockdown".

Mae "brain-storming" yn wleidyddol anghywir erbyn hyn. Ydy "Seiadu / Seiat" yn dod i'r un categori?

Ann

On 25/11/2019 11:02, Ann Corkett wrote:
> Byddwn i’n awgrymu Undeb y Myfyrwyr yn hytrach nag Yr Undeb Myfyrwyr.
> Ann
>
> Sent from my iPhone
>
>> On 25 Nov 2019, at 10:21, Emily Harries <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> 'Lockdown- Ideas are collated and teams of students gather to hack solutions'
>>
>> Mae'r Undeb myfyrwyr yn cael 'lockdown' yn ystod wythnos adborth, lle mae myfyrwyr yn aros yn yr undeb myfyrwyr nes maent yn ddod o hyd i atebion. Unrhyw awgrymiadau os gwelwch yn dda ar beth fydd 'Lockdown' yn y cyd-destun hwn?
>>
>> Diolch
>>
>> #####################################################################
>> ###
>>
>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRA
>> EG&A=1

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1


To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1