Mae'n swnio fel mwy o "lock-in" na "lockdown" - ond "yfed hwyr" ydy hynny yn ol GyrA . :-) Ar Llun, 25 Tach 2019 am 11:45 Claire Richards <[log in to unmask]> ysgrifennodd: > Onid yr awgrym yn y gair 'lockdown' yw nad oes neb yn cael gadael nes bod > y grŵp wedi dod o hyd i atebion? Gweler hefyd 'conclave'. > > Mae'n bosibl bod angen esbonio'r peth yn Gymraeg - 'sesiwn seiadu â'r > drysau dan glo'? > > Claire > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett > Sent: 25 November 2019 11:33 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Lockdown > > Mae Bruce wedi bod yn meddwl am hyn. Byddai'n awgrymu "cyfyng-gyngor", ond > mae ystyr i hwnnw eisoes, sef "Cyfyngder meddwl gan amheuaeth ac > ansicrwydd, penbleth, dryswch: > > quandary, perplexity, embarrassment." A fyddai hynny'n ffitio? Neu beth am > "cyfyng-drafodaeth". > > Tybed pam dewiswyd "lockdown"? Dramatig, wrth gwrs, ond nid dyna ei ystyr, > ond "a state of isolation or restricted access instituted as a security > measure" e.e. pan fydd rhywun wrthi'n saethu pawb o fewn cyrraedd. Gallaf > ddychmygu'r panig tasai myfyriwr yn ateb galwad gan ei fam, yn dweud > "Sorry, I can't talk now; we're in a lockdown". > > Mae "brain-storming" yn wleidyddol anghywir erbyn hyn. Ydy "Seiadu / > Seiat" yn dod i'r un categori? > > Ann > > On 25/11/2019 11:02, Ann Corkett wrote: > > Byddwn i’n awgrymu Undeb y Myfyrwyr yn hytrach nag Yr Undeb Myfyrwyr. > > Ann > > > > Sent from my iPhone > > > >> On 25 Nov 2019, at 10:21, Emily Harries <[log in to unmask]> wrote: > >> > >> 'Lockdown- Ideas are collated and teams of students gather to hack > solutions' > >> > >> Mae'r Undeb myfyrwyr yn cael 'lockdown' yn ystod wythnos adborth, lle > mae myfyrwyr yn aros yn yr undeb myfyrwyr nes maent yn ddod o hyd i > atebion. Unrhyw awgrymiadau os gwelwch yn dda ar beth fydd 'Lockdown' yn y > cyd-destun hwn? > >> > >> Diolch > >> > >> ##################################################################### > >> ### > >> > >> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following > link: > >> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRA > >> EG&A=1 > > ######################################################################## > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following > link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > > ######################################################################## > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following > link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1