Print

Print


Dwi wedi holi'r Uwch Golygydd, sef y ddynes dw i'n ei delio efo hi, i holi
os oes restr o dermau mewn Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg aballu. Dyma hi ei
hateb: Yes. I will. That’s a great question.

Felly, watch this space!

Sue

On Tue, 5 Nov 2019 at 16:08, Gareth Jones <[log in to unmask]>
wrote:

> Adroddiad blynyddol a chyfrifon corff cyhoeddus ydy’r cyd-destun, ac mae’n
> ymwneud â safonau cyfrifyddu ar gyfer cyrff cyhoeddus (IFRS). Dyma
> ddyfyniad:
>
>
>
> IFRS 9 introduces... simplified hedge accounting by aligning hedge
> accounting more closely with an entity’s risk management methodology.
>
>
>
> Dyma ddiffiniad o ‘hedge accounting’:
>
>
>
> Hedge accounting is a method of accounting where entries to adjust the fair
> value <https://www.investopedia.com/terms/f/fairvalue.asp> of a security
> and its opposing hedge <https://www.investopedia.com/terms/h/hedge.asp>
> are treated as one. Hedge accounting attempts to reduce the volatility
> <https://www.investopedia.com/terms/v/volatility.asp> created by the
> repeated adjustment to a financial instrument's value, known as fair value
> accounting or mark to market
> <https://www.investopedia.com/terms/m/marktomarket.asp>. This reduced
> volatility is done by combining the instrument and the hedge as one entry,
> which offsets the opposing's movements.
>
>
>
> Fel arfer, fe fyddai’n gallu canfod y termau cyfrifyddu hyn trwy droi at
> gyfieithiadau o adroddiadau blynyddoedd blaenorol, ond dwi ddim yn gallu
> gweld unrhyw gyfeiriad at ‘hedge accounting’.
>
>
>
> Dwi wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio Google Translate i weld beth yw’r
> cynigion. ‘Cyfrifo gwrychoedd’ oedd y cynnig cyntaf (sy’n amlwg yn
> anghywir). Fodd bynnag, mae hefyd yn cynnig ‘cyfrifyddu ar sail
> rhagfantoli’. Mae hynny’n swnio’n fwy tebygol o fod yn gywir, wrth gwrs,
> ond dwi ddim wedi canfod unrhyw enghraifft o hyn wrth chwilio ar-lein am y
> term.
>
>
>
> Unrhyw awgrymiadau os gwelwch yn dda?
>
>
>
> Sent from Mail <https://go.microsoft.com/fwlink/?LinkId=550986> for
> Windows 10
>
>
>
> ------------------------------
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following
> link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1