Print

Print


Bore da Osian,

Mae’r term wedi cael ei arddel ers y 70’au ac yn gyflwr seicolegol cydnabyddedig sydd ddim yn un anghyffredin ychwaith.

Fel rheol byddai’r rhan fwyaf o bobl yn disgrifio ‘limerence’  yn y Saesneg drwy ddefnyddio geiriau fel : infatuation ,  unrequited love, neu hyd yn oed crush – ond nid yw yn union yr un peth a’r rhain. Mewn gwirionedd (yn ôl Dr Tennov wnaeth fachu’r term) mae’n debyg iawn i’r cyflwr emosiynol yna sy’n perthyn i gyfnod pan mae dau unigolyn yn y broses o ddisgyn mewn cariad gyda’i gilydd – OND yn achos limerence mae’n unochrog.

Felly rhyw hiraethu am fod mewn perthynas gyda rhywun sydd ddim yn teimlo’r un peth ydyw. Efallai byddai termau fel ‘hiraeth cariad’ neu ‘serch unochrog’  yn disgrifio elfennau o’r cyflwr ond nid ydynt yn agos iawn ati mewn gwirionedd. Roeddwn i’n sylwi ar dudalen Wiki am y gair fod yr holl ieithoedd eraill yn defnyddio’r term ‘Limerence’ wedyn fy nghynnig i fyddai yn syml: Limrens. Oni bai fod rhywun yno sy’n cael  syniad da neu seicolegydd sy’n gyfarwydd gyda therm Cymraeg am y peth?

Cofion,

Melfyn

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 11 November 2019 17:04
To: [log in to unmask]
Subject: limerence

Pnawn da gyfeillion

Tybed oes rhywun yn gyfarwydd â'r term limerence, a gorau oll, wedi dod ar draws gair Cymraeg, neu'n gallu meddwl am air addas? Rhaid cyfadde nad o'n i'n gyfarwydd â'r gair yn Saesneg heb sôn am ddim byd arall!

Dyma sydd gan Wikipedia i'w ddweud amdano:

"Limerence is a state of mind which results from a romantic attraction to another person and typically includes obsessive thoughts and fantasies and a desire to form or maintain a relationship with the object of love and have one's feelings reciprocated. Limerence can also be defined as an involuntary state of intense romantic desire."

Rhagor yma: https://en.wikipedia.org/wiki/Limerence

Diolch yn fawr ymlaen llaw!

Osian


________________________________

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1

______________________________________________________________________
This email has been scanned by the Symantec Email Security.cloud service.
For more information please visit http://www.symanteccloud.com
______________________________________________________________________
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg - byddwn yn ymateb yn gyfartal i’r ddwy ac yn ateb yn eich dewis iaith heb oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English - we will respond equally to both and will reply in your language of choice without delay.


Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.  Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.  Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich cydweithrediad.   
Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.  North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
This communication is intended for the addressee(s) only.  Please notify the sender if received in error and erase from your system.  Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy.  Thank you for your co-operation.
North Wales Police


########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1