Dwi'n gwybod yn iawn be di'r rheol - sef rhoi'r didolnod ar y llafariad acennog.
Fy nadl i ydi nad 'a' ydi'r llafariad acennog yn 'Llydawr', ond y ddeusain 'aw'. Mae gwrandawr yr un fath - nid gwranda-wr yw'r ynganiad ond 'gwrandaw-wr'. Ydio'n anodd ei ynganu? Wyt ti'n dweud 'Llyda-wr', Anna?
Geraint
Ar 10/09/2019 16:22, ysgrifennodd anna gruffydd:
Nac ydw - mae unrhyw beth ar w neu y yn peri traffarth i mi a'm cwsmeriaid! Ond eniwe, dwi'n gweld dy resymeg di ond mae rhoi'r pwyslais ar yr w yn gneud y gair yn gythreulig o anodd ei ynganu. Beth am ymgyrchu dros beidio a rhoi dim byd yno wedyn mi gaiff pobol ei ynganu fel mynnan nhw?
Anna
Ye who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!
Wrthi'n golygu gwaith sy'n sillafu "Llydawr" gyda'r didolnod ar yr 'w'
yn hytrach na'r 'a'. Mae hynny i fi yn llawer mwy synhwyrol gan mai 2
'w' sydd wedi'u cywasgu 'Llydaw-wr'. Mae 'Llydäwr' wastad yn rhoi'r
argraff mai dwy 'a' sydd wedi'u cywasgu ac mai 'Llyda-wr' ydi'r
ynganiad. Felly dwi am ddechrau ymgyrch i newid y sillafiad i 'Llydawr'
efo'r didolnod ar yr 'w'. Pwy sy'n gêm?
geraint
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1