Mae’r term wedi cael ei drafod o’r blaen, a chynigiwyd ‘chwarae triciau meddwl ar (rywun)’ a ‘gwneud i (rywun) amau ei fod yn ei iawn bwyll/ amau ei hun/ amau ei synhwyrau’. Neu beth am ‘mynd ati i wneud i rywun amau ei bwyll / synhwyrau’? Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 28 September 2019 09:34 To: [log in to unmask] Subject: gaslighting Sef:- “Gaslighting is a form of emotional and psychological abuse wherein a person uses verbal and behavioral tricks to convince another person they are losing their mind or—at the very least—cannot trust their own judgment. Why? To gain control.” Psycom Dydi’r gair ddim ar fy mhlât i ar hyn o bryd, diolch i’r drefn, ond – o gofio’r dymer wleidyddol sydd ohoni ar hyn o bryd, a phobl wrth y llyw ar ddwy lan yr Iwerdydd (heb sôn am wledydd eraill) sy’n diodda gan yr anhwyldera personoliaeth sy’n dod dan yr enw’r Triawd Tywyll (Narsisiaeth, Maciafeliaeth a Seicopathi) – yn hwyr ne’n hwyrach, synnwn i damaid na fydd gofyn i ni ddod i’r afael ag o. Heb sôn am faes seicoleg lle mae’n cael ei ddefnyddio’n fynych (ynghlwm â’r anhwyldera personoliaeth uchod). Felly dyma feddwl y baswn i’n achub y blaen. Mae’n ddyrys, wrth gwrs, gan fod y gair yn cyfleu cryn dipyn, ac yn deillio o enw’r ffilm Saesneg o’r un enw. Gyda llaw, does yna ddim cyfieithiad Eidaleg – gaslighting a ddefnyddir. Felly dewch i ni roi’n meddyliau ar waith wedyn fyddwn i’n barod amdani! Edrych ymlaen at weld be ddaw i’r fei gennych chi sgleigion. Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! [https://ipmcdn.avast.com/images/icons/icon-envelope-tick-green-avg-v1.png]<http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail> Mail priva di virus. www.avg.com<http://www.avg.com/email-signature?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=webmail> ________________________________ To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1