Print

Print


Hyfforddiant ynghylch ymddygiad plant yw’r cyd-destun (cyfieithiad o’r Gymraeg i’r Saesneg). 

Mae’r ddogfen yn cyfeirio at ddulliau adferol o ymdrin ag ymddygiad, a dyma’r disgrifiad o un o elfennau’r dulliau hynny:

y prif bwrpas yw mynd i'r afael â’r niwed a'i adfer

A fyddai ‘resolve’ yn gyfieithiad derbyniol o ‘adfer’ yn y cyd-destun hwn? E.e.

the main purpose is to address and resolve the harm

Neu beth am ‘redress’ neu ‘rectify’?

Dwi’n meddwl bod yr awdur yn ceisio cyfleu ‘gwneud iawn’ am y niwed neu rhywbeth felly. Yn amlwg, dydy ‘restore’ ddim yn addas yn y cyd-destun hwn, er mai ‘restorative approaches’ sydd dan sylw. Mae ‘adfer y niwed’ yn swnio braidd yn chwithig i mi – faswn i’n meddwl mai’r sefyllfa oedd yn bodoli cyn i’r niwed ddigwydd (h.y. pawb yn cyd-dynnu) sy’n cael ei adfer. 


Sent from Mail for Windows 10


########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1