Hyfforddiant ynghylch ymddygiad plant ydy’r cyd-destun.
Dyma’r diffiniad o ‘achub y blaen’ yn y cyd-destun:
Dweud rhywbeth a fydd yn newid y sefyllfa neu dynnu plentyn o’r sefyllfa cyn i rywbeth ddigwydd.
Mae 'jumping the gun’ yn un cyfieithiad, ond efallai byddai’n well osgoi cyfeiriadau at arfau mewn cyflwyniad sy’n annog dulliau cyfannol o ymdrin ag ymddygiad plant.
A oes ymadrodd Saesneg ar gael sy’n gweddu’n well? Neu a ydw i’n dychmygu bod problem yn bodoli o ran defnyddio ‘jumping the gun’? Beth yw barn aelodau eraill y cylch?
Sent from Mail for Windows 10