Hyfforddiant ynghylch ymddygiad plant ydy’r cyd-destun. Dyma’r diffiniad o ‘achub y blaen’ yn y cyd-destun: Dweud rhywbeth a fydd yn newid y sefyllfa neu dynnu plentyn o’r sefyllfa cyn i rywbeth ddigwydd. Mae 'jumping the gun’ yn un cyfieithiad, ond efallai byddai’n well osgoi cyfeiriadau at arfau mewn cyflwyniad sy’n annog dulliau cyfannol o ymdrin ag ymddygiad plant. A oes ymadrodd Saesneg ar gael sy’n gweddu’n well? Neu a ydw i’n dychmygu bod problem yn bodoli o ran defnyddio ‘jumping the gun’? Beth yw barn aelodau eraill y cylch? Sent from Mail for Windows 10 ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1